Crystal Palace 0 - 2 Abertawe

  • 22 Medi 2013
Michu
Michu oedd seren y gêm i Abertawe gan sgorio wedi munud o chwarae

Mae Abertawe wedi curo Crystal Palace yn yr Uwch Gynghrair i symud i'r 9fed safle yn y tabl.

Roedd capten yr Elyrch, Ashley Williams yn ôl i arwain y tîm wedi iddo fethu'r fuddugoliaeth yn erbyn Valencia yn y Gynghrair Ewropa nos Iau.

Ond ymosodwr Abertawe, Michu rhoddodd y dechreuad perffaith i'r ymwelwyr, gan sgorio wedi munud o chwarae yn Selhurst Park.

Chwaraeodd y Sbaenwr rhan allweddol yn yr ail gol hefyd, gan greu cyfle i Nathan Dyer rwydo yn fuan ar ôl yr hanner.

Roedd hi'n gêm eithaf un ochrog, lle fethodd Palace a chreu llawer o gyfleoedd.

Dyma oedd ail fuddugoliaeth yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, ac maen nhw'n symud i fyny i'r 9fed safle, tra bod Crystal Palace yn parhau i fod yn y tri isaf.

Crystal Palace Abertawe
Speroni Mariappa Gabbidon Moxey Delaney (Campana - 46' ) Jedinak Guedioura Bannan (Thomas - 67' ) Puncheon ChamakhJerome (Gayle - 67' ) Vorm Chico Williams Rangel Davies Shelvey Michu Dyer (Pozuelo - 71' ) Routledge Canas (Britton - 78' ) Vazquez (De Guzman - 61' )