Tynnu chwip y blaid oddi ar ASE UKIP

  • 20 Medi 2013
Nigel Farage
Image caption Dywedodd Mr Farage y byddai Prydain yn "ffynnu y tu allan i Ewrop"

Mae chwip y blaid wedi cael ei thynnu oddi ar Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP, Godfrey Bloom.

Roedd wedi gwneud sylwadau am griw o fenywod yng nghynhadledd flynyddol y blaid yn Llundain.

Er iddo ddweud mai jôc oedd y sylwadau, mae arweinydd UKIP, Nigel Farage, wedi dweud eu bod nhw'n israddoli menywod ac yn gwbl annerbyniol.

Bydd Mr Bloom yn destun ymchwiliad mewnol.

Roedd plaid UKIP yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yn Llundain, gyda'r arweinyddiaeth yn anelu at ddod yn gyntaf yn etholiadau Ewrop yn y gwanwyn.

'Gwir Ewropeaid'

Dywedodd Mr Farage y byddai Prydain yn "ffynnu y tu allan i Ewrop" ac y byddai'r blaid yn "achosi daeargryn" yn etholiadau Ewrop.

"Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu drws agored i'r byd," meddai wrth gynrychiolwyr.

"Y ni yw'r gwir Ewropeaid," meddai wrth honni mai ei blaid sy' wedi dylanwadu ar ddadleuon am fewnfudo a chynnal refferendwm ar Ewrop.

Cafwyd llwyddiant yn etholiadau lleol yn Lloegr ym mis Mai, ac ym mis Awst daeth y blaid o fewn 350 o bleidleisiau o ddod yn ail yn isetholiad Cynulliad Ynys Môn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.