Abertawe yn dathlu buddugoliaeth 'anghredadwy'

  • 20 Medi 2013
Abertawe
Mae'r fuddugoliaeth yn rhoi'r Elyrch ar frig grwp A

Mae amddiffynnwr Abertawe, Angel Rangel wedi dweud bod arwain ei dîm i fuddugoliaeth dros Valencia nos Iau wedi bod yn "anghredadwy".

Llwyddodd yr Elyrch i guro Valencia o 3-0 yn Sbaen nos Iau, i fynd i frig eu grŵp yn y Gynghrair Ewropa.

Daeth y goliau gan Wilfried Bony, Michu a Jonathan De Guzman, wedi i amddiffynnwr Valencia, Adil Rami gael ei yrru o'r cae ar ôl 10 munud.

Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup wedi dweud ei fod yn hynod falch dros ei chwaraewyr.

Roedd gan Abertawe fantais wedi 10 munud, pan gafodd Adil Rami gerdyn coch am dynnu Bony yn ôl, ac yntau yn carlamu tua'r gol.

Michu
Michu sgoriodd ail gol Abertawe yn Valencia

Bony ei hun sgoriodd yn gyntaf, gan orffen symudiad gwych i lawr yr asgell chwith wedi 15 munud.

Michu gafodd yr ail, wedi i Pozuelo agor amddiffyn Valencia gyda phas gywir, cyn i ergyd wych Jonathan De Guzman o gic rydd sicrhau'r fuddugoliaeth.

Gydag Ashley Williams wedi ei anafu, Angel Rangel oedd y capten ar y noson, a hynny am y tro cyntaf ers ymuno a'r Elyrch.

Cefnogwyr
Roedd cefnogwyr wedi teithio i Sbaen i weld Abertawe yn dechrau'r gystadleuaeth mewn steil

"Mae'n foment balch iawn i mi. Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un wedi disgwyl y perfformiad yna, rydym ni wedi dangos pa mor dda ydym ni," meddai'r Sbaenwr.

"Dyma'r tro cyntaf yn fy ngyrfa i fod yn gapten, ac i ddod i Sbaen ac ennill mewn stadiwm fawr, ac yn y modd yma, mae'n wych.

"Dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi sylweddoli eto beth sydd wedi ei gyflawni, yn bersonol ac i'r tîm."

Angel Rangel
Dywedodd Angel Rangel bod y fuddugoliaeth yn anghredadwy

Dywedodd Michael Laudrup y gallai ei dîm fod wedi sgorio sawl gol ychwanegol:

"Roedden ni ar y blaen drwy'r gêm. Cawson nhw ddim cyfleoedd, ond roedd gennym ni tri neu bedwar cyfle mawr arall," meddai.

"Roedd hi'n wych i ennill yn erbyn clwb mawr mewn cystadleuaeth Ewropeaidd, felly wrth gwrs rydw i'n falch iawn."

Er y perfformiad cryf gan Abertawe, mae Laudrup yn ymwybodol na fydd gemau yn erbyn St Gallen a Kuban Krasnodar yn rai hawdd.

Bydd yr Elyrch yn wynebu Crystal Palace yn eu gem nesaf yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sul.