AS yn ymddangos yn y llys

Nigel Evans
Mae Mr Evans yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn

Mae'r Aelod Seneddol Nigel Evans wedi ymddangos yn y llys am y tro cyntaf i wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw yn erbyn saith dyn.

Mae Mr Evans, 55 oed ac yn wreiddiol o Abertawe, yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, pump o ymosodiadau rhyw ac un o dreisio.

Cafodd yr achos yn Llys Ynadon Preston ei ohirio gan y Barnwr Jane Goodwin tan Hydref 4.

Bryd hynny bydd cyn ddirprwy lefarydd Tŷ'r Cyffredin ac AS Ribble Valley yn ymddangos yn Llys y Goron Preston.

Mewn datganiad personol yn San Steffan yr wythnos ddiwethaf, mynnodd Mr Evans nad oedd wëid gwneud dim o'i le wrth iddo ymddiswyddo fel dirprwy lefarydd.

Bydd yn parhau fel aelod annibynnol dros Ribble Valley.