Annibyniaeth yn golygu 'system dreth decach,' medd Sturgeon

Nicola Sturgeon
Image caption Nicola Sturgeon yw'r Dirprwy Brif Weinidog

Mae Dirprwy Brif Weinidog yr Alban wedi dweud y bydd annibyniaeth yn arwain at "system dreth decach".

Nicola Sturgeon sy'n arwain y drafodaeth am "ddyfodol yr Alban" yn Senedd yr Alban ddydd Mercher.

Cyn y ddadl cadarnhaodd y byddai'r SNP yn cyhoeddi Papur Gwyn am effaith pleidlais Ie ym mis Tachwedd.

Mae'r ddadl flwyddyn yn union cyn y refferendwm ar annibyniaeth.

'Fforddio gadael'

Dywedodd: "Mae'r rhai o blaid ac yn erbyn yn cytuno y gallai'r Alban fforddio gadael y Deyrnas Gyfun."

Yn y cyfamser, mae David Cameron, Prif Weinidog Prydain, wedi annog Albanwyr "i beidio â gwneud dim fyddai'n amharu ar undeb unigryw o genhedloedd".

"O fewn wythnosau," meddai Ms Sturgeon, "fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynigion fydd yn gwarchod pensiynwyr yn well, yn elwa ar ein cryfderau economaidd fel bod modd creu swyddi, hybu adnewyddu ac allforion a chreu gwlad fwy cyfartal.

'Newid'

"Byddwn yn amlinellu system dreth fydd yn decach ac yn symlach ac yn cynnig cyngor ar sut i reoli cyllid ein gwlad a gwarchod ein cronfeydd olew er lles cenedlaethau i ddod."

Dywedodd Mr Cameron: "Ymhen blwyddyn bydd pobl yr Alban yn gwneud penderfyniad allai newid eu gwlad am byth.

"Bydd y dyfodol yn eu dwylo nhw.

"Dwi'n mawr obeithio y bydd yr Alban yn aros yn y deyrnas. Mae'r sefyllfa bresennol yn gweithio.... gyda'n gilydd rydym wedi cyflawni cymaint."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.