Cofeb y Rhyfel Mawr yng Ngwlad Belg i dderbyn £25,000

Dyluniad cofeb bosib Image copyright Welsh Memorial in Flanders Campaign
Image caption Dyluniad o'r gofeb yn Langemark

Bydd cynllun i godi cofeb yng Ngwlad Belg i gofio'r milwyr o Gymru gafodd eu lladd ac a fu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn derbyn £25,000 o goffrau llywodraeth Cymru.

Bwriad Apêl Cofeb y Cymry yn Fflandrys yw codi cromlech yn Langemark a hynny erbyn 2014 er mwyn cofnodi 100 mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Mawr.

Gwnaed y cyhoeddiad am y rhodd ariannol y Prif Weinidog Carwyn Jones cyn iddo ymweld â safle'r gofeb ddydd Mercher.

Mae Mr Jones wedi galw ar bobl Cymru i gyfrannu i'r Apêl sydd angen £60,000 yn ychwanegol er mwyn gosod cerflun metal o ddraig goch ar ben y gofeb.

Mae'r awdurdod lleol yng ngorllewin Fflandrys eisoes wedi cytuno i godi gardd goffa Gymreig o amgylch y safle.

Argraff ddofn

Bydd y prif weinidog yn codi'r dywarchen gyntaf cyn i'r gwaith o godi'r gromlech ddechrau.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd: "Mae'r apêl gyhoeddus i godi'r gofeb hon yn bartneriaeth rhwng pobl Cymru a Fflandrys.

"Mae aberth y milwyr ac eraill o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cael argraff ddofn arnyn nhw ac roedden nhw am sicrhau eu bod yn cael eu coffáu.

Image caption Aeth y prif weinidog i ymweld â bedd Hedd Wyn yn Artillery Wood

"Mae'r gofeb hon yn anrhydeddu'r gwŷr o Gymru a fu farw yn y brwydrau yn Fflandrys yn ystod y gwrthdaro, ynghyd â'r holl ddynion a menywod o Gymru a wasanaethodd yn ystod y Rhyfel."

Mae'r apêl gyhoeddus eisoes wedi codi £30,000 tuag at y gost.

Maes y gad

Mae ymweliad Carwyn Jones yn nodi cychwyn rhaglen goffáu Cymru'n Cofio - Wales Remembers 1914-1918.

Yn ystod ei ymweliad â Fflandrys, fe fydd o hefyd yn ymweld â bedd y prifardd Hedd Wyn, sydd wedi'i gladdu ym mynwent ryfel Artillery Wood, nepell o lle caiff y gofeb ei chodi.

Fe'i lladdwyd ar ddiwrnod cyntaf brwydr Ypres neu Passchendaele ar Orffennaf 31, 1917.

Tra yn y ffosydd, roedd wedi cystadlu am y Gadair ar y thema 'Arwr' yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Yn ystod seremoni'r Cadeirio, cyhoeddwyd bod y bardd buddugol wedi syrthio ar faes y gad a chafodd y gadair ei gorchuddio â lliain du.

Hefyd ddydd Mercher bydd y prif weinidog yn mynd i'r seremoni goffáu nosweithiol wrth gofeb Clwyd Menin yn Ypres.

Mae'r gofeb yn coffáu dros 54,000 o ddynion o Awstralia, Canada, India, De Affrica a'r Deyrnas Unedig a gollwyd mewn brwydrau o amgylch Ypres sydd heb feddau hysbys.

Bydd Mr Jones yn parhau â'i ymweliad y diwrnod canlynol drwy fynd i weld Cofeb y Cymry er cof am y rheini a ymladdodd ym Mrwydr Coed Mametz yng ngogledd Ffrainc.

Straeon perthnasol