Pentref Llangrannog yng Ngheredigion
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Trethi cyngor uwch i dai haf?

17 Medi 2013 Diweddarwyd 09:46 BST

Oes posibilrwydd y bydd treth y cyngor yn uwch yn y dyfodol ar ail gartrefi yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru'n barod i ystyried hynny ac maen nhw'n cynnal ymgynghoriad dros y chwe wythnos nesa'.

Oherwydd bod 'na brinder tai mewn rhai ardaloedd, fe allai'r cynghorau sir gael yr hawl i godi treth y cyngor yn achos tai haf.

Mae ymgyrchwyr iaith yn croesawu hynny, ond mae eraill yn amau a fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth.

Ellis Roberts fu'n casglu'r ymateb yn Sir Benfro.