Dyn yn gwadu llofruddiaeth yn Wrecsam

  • 16 Medi 2013
Cambrian Vaults
Bu farw Criag Maddocks yn nhafarn y Cambrian Vaults yn Wrecsam

Mae dyn 45 oed o Wrecsam wedi gwadu llofruddio dyn arall yn y dref yn gynharach eleni.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, fe blediodd Fransisco Prevete yn ddieuog o lofruddio Craig Maddocks, 34, o Llai, yn nhafarn y Cambrian Vaults ar Fehefin 26.

Cafodd Mr Prevete ei gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Merfyn Hughes QC.

Fe fydd yn ymddangos yn y llys eto ar Hydref 2 - y tro hwn yn Llys y Goron Yr Wyddgrug - pan fydd dyddiad i'r achos yn cael ei bennu.