Ystyried achos marwolaeth milwr o Gymru ar Ynys Cyprus

Scott Hughes Image copyright Not Specified
Image caption Roedd Scott Hughes newydd orffen cyfnod o chwe mis yn Afghanistan pan gafodd ei ladd ar Ynys Cyprus

Bydd cwest yn dechrau ddydd Llun i farwolaeth milwr o Gymru, a fu farw ar Ynys Cyprus bron i dair blynedd yn ôl.

Roedd Scott Michael Hughes, 20, o'r Felinheli, yn ymarfer gyda'r Awyrlu pan gafodd ei daro gan gwch yn y môr ger Episkopi ym mis Tachwedd 2010.

Bu farw yn yr ysbyty yn Limassol ddeuddydd yn ddiweddarach.

Adeg ei farwolaeth, roedd yn gwasanaethu gyda Sgwadron 1 Catrawd yr Awyrlu Brenhinol, ac roedd newydd orffen cyfnod o chwe mis ar flaen y gad yn Afghanistan.

Roedd y milwyr wedi aros ar Ynys Cyprus ar y ffordd adre' er mwyn gwneud ymarferion 'datgywasgiad', oedd yn ofynnol yn y dyddiau cynta' ar ôl gorffen ymgyrch.

Mae'r cwest yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dre' Llandudno ac mae disgwyl iddo bara pum niwrnod.

Straeon perthnasol