Ysgol newydd yn cau oherwydd haint

  • 12 Medi 2013
Ysgol Uwchradd Tredelerch Image copyright BBC news grab
Image caption Mae'r ysgol newydd ar safle hen Ysgol Uwchradd Tredelerch yn nwyrain Caerdydd

Mae ysgol newydd yng Nghaerdydd wedi cau wedi i'r haint sy'n gyfrifol am glefyd Legionnaires gael ei ddarganfod yno.

Cafodd Ysgol Uwchradd Dwyrain Caerdydd ei hagor ddydd Llun, gan ddod â 1,500 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd Tredelerch a Llanrhymni at ei gilydd am y tro cyntaf.

Ond erbyn dydd Mercher roedd staff yn cysylltu gyda rhieni drwy negeseuon testun yn dweud y byddai'n rhaid cau'r ysgol, a'u bod yn gweithio er mwyn ailagor cyn gynted â phosib.

Dywedodd Cyngor Caerdydd y byddai'r ysgol ar gau ddydd Gwener.

"Rydym yn ymddiheuro am y ffaith y bydd Ysgol Uwchradd Dwyrain Caerdydd ar gau yfory (ddydd Gwener) er mwyn cwblhau gwaith hanfodol wedi i haint Legionella gael ei ddarganfod yn yr ysgol," meddai llefarydd.

"Oherwydd y gwaith sydd angen ei wneud a'r aflonyddwch y bydd yn ei achosi, bydd yr ysgol ar gau tan y bydd hysbysiad pellach."

Mae bacteria Legionella yn aml yn cael ei ddarganfod mewn systemau dŵr, ac mae'n rhaid ei drin gyda chemegau i'w hatal rhag troi i mewn i glefyd Legionnaires.

Gall glefyd Legionnaires fod yn beryglus iawn.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.