Pleidleisio ar ordeinio merched yn esgobion

  • 12 Medi 2013
Eglwys yng Nghymru
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cyfarfod yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau

Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal pleidlais ddadleuol ddydd Iau i benderfynu os bydd yn caniatáu ordeinio merched yn esgobion.

Cafodd y bil ei gynnig gan chwe esgob yr Eglwys, sy'n dweud nad oes rheswm diwinyddol dros beidio â chaniatáu merched i ddod yn esgobion.

Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud y byddai pasio'r bil yn creu hollt o fewn yr Eglwys.

Dyma'r ail dro y bydd y cynnig yn cael ei drafod yng Nghymru, wedi i fil ar ordeinio merched gael ei drechu o dair pleidlais yn 2008.

Pleidlais

Bydd 144 aelod o fwrdd llywodraethu'r Eglwys yn pleidleisio ar y bil mewn cyfarfod yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Iau.

Mae'r grŵp yn cynnwys tua 50 o gynrychiolwyr clerigol a dros 80 o gynrychiolwyr annibynnol.

Mae'r chwe esgob wedi cynnig y bil mewn ffordd sy'n golygu na fyddai merched yn cael eu hordeinio yn esgobion yn syth, hyd yn oed os yw'r bil yn cael ei basio.

Dr Barry Morgan
Dydy'r Dr Barry Morgan ddim yn gweld unrhyw reswm 'diwinyddol' dros beidio ordeinio merched

Byddai rhaid sicrhau darpariaeth i wrthwynebwyr gydag ail fil, cyn ordeinio merched.

Mae cefnogwyr hefyd wedi cynnig newid arall, fyddai'n golygu symleiddio'r broses yn y dyfodol, gydag ond un bleidlais.

Dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan: "Gan ein bod yn ordeinio merched yn ddiaconiaid ac offeiriaid, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr diwinyddol i beidio â'u hordeinio'n esgobion, gan ein bod yn credu yn y weinidogaeth driphlyg.

"Dyna pam fod fy nghyd-esgobion a minnau'n gofyn i aelodau'r Corff Llywodraethol bleidleisio o blaid y bil. Ni fyddai'n dod i rym yn syth, ond o leiaf byddem wedi sefydlu'r egwyddor yr wyf o'r farn bod y rhan fwyaf o bobl yn yr Eglwys yn cydsynio â hi."

Hollt

Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud y bydd cymeradwyo'r bil yn creu hollt o fewn yr Eglwys.

Dywedodd y Tad Ben Andrews o Dregatwg ger y Barri, y byddai caniatáu merched i fod yn esgobion yn creu "an-undod mawr o fewn yr eglwys".

"Rôl yr esgob yw cadw'r esgobaeth gyda'i gilydd, ac i'r rhai ohonom ni na allwn dderbyn offeiriadaeth sacramentaidd gan ddynes mae'n golygu na allwn fod mewn cymundeb gyda'r esgob yna," meddai.

"Gall yr amser ddod pan fydd hi'n amhosib i mi weithredu fel offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru."

Opsiynau

Mae'r bleidlais yn cael ei weld fel penderfyniad ar yr egwyddor o ordeinio merched yn esgobion gan na fyddai'n dod i rym yn syth os ydy'n cael ei basio.

Y Tad Ben Andrews
Mae'r Tad Ben Andrews yn credu y gall pasio'r bil greu hollt yn yr Eglwys

Byddai rhaid cytuno ar ail fil i sicrhau darpariaeth i wrthwynebwyr, a fyddai'n cymryd o leiaf blwyddyn i ffurf

Mae un o'r tri newid i'r bil sydd wedi eu cynnig yn arwyddocaol gan ei fod yn galw am symleiddio'r bil.

Cafodd ei gynnig gan y Parchedig Jenny Wigley a'r Archddiacon Peggy Jackson, ac mae'n galw am un bleidlais, gyda'r cyfle i esgobion ffurfio trefn gweithredu i wrthwynebwyr, yn hytrach nag ail bleidlais.

Os bydd y newidiadau i'r bil yn cael eu pasio, byddai'n golygu y gall merched gael eu hordeinio yn esgobion ar ôl blwyddyn.

Os nad yw'r newid yn pasio ond mae'r bil, yna gall gael ei weld fel penderfyniad yr Eglwys yng Nghymru i fod o blaid ordeinio merched mewn egwyddor, cyn ffurfio ail fil yn y dyfodol.

Mae'n bosib na fydd yr un yn pasio hefyd, fydd yn golygu na all y syniad gael ei drafod eto am nifer o flynyddoedd.io.