Cwestiwn ac ateb: Refferendwm yr Alban

  • 18 Medi 2013
Senedd yr Alban

Hydref nesaf, bydd pobl yr Alban yn pleidleisio ar a ddylai'r wlad fod yn wlad annibynnol.

Mae'r cytundeb i gynnal y refferendwm wedi ei wneud a'r dyddiad wedi ei osod - yn awr mae i fyny i ymgyrchwyr i gyflwyno eu hachos.

Pryd fydd y refferendwm yn digwydd?

Ar ôl llawer o drafod - Prif Weinidog yr Alban ag arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban Alex Salmond gyhoeddodd y dyddiad: Dydd Iau 18 Medi, 2014.

Arwyddwyd cytundeb hanesyddol rhwng y ddau arweinydd oedd yn nodi termau'r refferendwm yn Nghaeredin ar Hydref 15, 2012.

Pam y dyddiad hwn ?

Roedd materion ymarferol megis gwyliau'r Hydref, tymor cynhadledd pleidiau y Deyrnas Unedig (DU) a thywydd gaeafol enwog yr Alban i gyd yn ystyriaethau.

Gyda llaw, mae 2014 hefyd yn digwydd bod y flwyddyn mae dau ddigwyddiad chwaraeon mawr yn cael eu cynnal - Cwpan Ryder a Gemau'r Gymanwlad - y ddau yn cael eu cynnal yn yr Alban.

Ac fe fydd hi hefyd yn 700 mlynedd ers Brwydr Bannockburn 1314 , a welodd y fyddin o Loegr yn cael ei drechu gan luoedd " Brenin y Sgotiaid " Robert the Bruce, yn ystod y rhyfeloedd dros annibyniaeth.

Pwy sy'n cael pleidleisio ?

Yn y bôn, pawb dros 16 oed sy'n byw yn yr Alban.

Mae hynny'n golygu nad yw'r 800,000 o Albanwyr sy'n byw mewn rhannau eraill o'r DU yn cael pleidlais , tra bod y 400,000 o bobl o fannau eraill ym Mhrydain sy'n byw yn yr Alban yn cael gwneud.

Mae pob un o'r 'wynebau amlwg' ar ddwy ochr y ddadl yn cytuno mai dyma'r ffordd decaf o wneud pethau.

Bydd aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu dramor ac sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio yn yr Alban hefyd yn cael bwrw pleidlais.

Beth fydd ar y papur pleidleisio?

Cwestiwn ie/na fydd yn cael ei ofyn: "A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?"

Fersiwn gwreiddiol Llywodraeth yr Alban oedd: "A ydych yn cytuno y dylai'r Alban fod yn wlad annibynnol? " Ond lleisiodd y Comisiwn Etholiadol bryderon y gallai arwain pobl i bleidleisio "ie", a newidiwyd y cwestiwn i fod yn fwy niwtral.

Roedd fersiynau llawer mwy amleiriog wedi cael eu cynnig hefyd, er enghraifft:

"Dylai Senedd yr Alban drafod setliad newydd gyda llywodraeth Prydain , yn seiliedig ar y cynigion a nodir yn y papur gwyn, fel bod yr Alban yn dod yn wladwriaeth sofran ac annibynnol."

Yr opsiynau i'r cwestiwn hwn oedd: "Ie rwyf yn cytuno " neu "Na Rwy'n anghytuno".

Pwy sy'n gyfrifol am y refferendwm?

Bydd gofyn i Aelodau Senedd yr Alban gymeradwyo telerau'r bleidlais yn Mesur Refferendwm Annibyniaeth yr Alban sydd yn gwneud ei ffordd drwy'r senedd ar hyn o bryd.

Roedd hyn yn dilyn arwyddo Cytundeb Caeredin gan Mr Salmond a Prif Weinidog y DU David Cameron - mesur i sicrhau y gallai'r refferendwm gael ei lunio a'i gynnal yn yr Alban ar sail gwbl gyfreithiol.

Mae llywodraeth yr Alban yn dweud y bydd y mesur yn sicrhau bod:

  • Y refferendwm ei hun yn ei ragflaenu gan gyfnod ymgyrch ffurfiol o 16 wythnos, pan fydd uchafswm yn cael ei osod ar faint all ymgyrchwyr wario;
  • Bod y Comisiwn Etholiadol, sy'n gorff annibynnol, yn goruchwylio'r ymgyrchu a'r bleidlais;
  • Bod y bleidlais yn cael ei chynnal o dan gyfarwyddyd "prif swyddog cyfrif", fydd yn gyfrifol am benodi swyddogion cyfrif lleol.

Cytunodd llywodraeth y DU i roi pwerau dros dro i Senedd yr Alban i gynnal refferendwm cyfreithiol , o dan Adran 30 o Ddeddf 1998 Yr Alban - y darn o ddeddfwriaeth a sefydlodd Senedd yr Alban.

Mae hyn oherwydd bod pwerau dros faterion cyfansoddiadol wedi eu cadw i San Steffan o dan setliad datganoli'r Alban.

Mae'r Cytundeb Caeredin hefyd yn ymrwymo'r ddwy lywodraeth i gydweithio'n adeiladol er lles pobl yr Alban, beth bynnag fydd canlyniad y refferendwm.

Bydd mwyafrif seneddol yr SNP yn Holyrood sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei phasio.

Pwy fydd yn ymgyrchu ?

Mae gwahanol bleidiau gwleidyddol wedi rhoi eu cefnogaeth i'r ddwy ymgyrch, yn dibynnu ar eu safbwyntiau cyfansoddiadol, er eu bod hefyd yn rhedeg eu hymgyrchoedd eu hunain, fel y mae llywodraethau'r Alban a'r DU.

Mae Gwyrddion yr Alban hefyd o blaid annibyniaeth yn ogystal â'r aelod annibynnol Margo MacDonald, tra bod Llafur, y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu.

Mae'n debygol y bydd grwpiau ymgyrchu eraill yn lleisio barn wrth i'r dyddiad agosáu.

Pa mor bell yn ôl mae mudiad annibyniaeth modern yr Alban yn mynd?

Dechreuodd yr ymgyrch dros annibyniaeth yr Alban o ddifrif bron cyn gynted ag yr unwyd hi â Lloegr, nôl yn 1707 .

Ar y pryd, y farn oedd bod yr Alban yn ysu am fwy o arian, ond mae gwrthwynebwyr wedi eu cythruddo gan honni bod yr Albanwyr a roddodd eu henwau i'r Ddeddf Uno wedi cael eu llwgrwobrwyo.

Yn 1934 sefydlwyd Plaid Genedlaethol Yr Alban, Yr SNP.

Ar ôl degawdau o ddiffyg llwyddiant, enillodd y cenedlaetholwyr eu hetholiad cyntaf yn 2007, gan ffurfio llywodraeth leiafrifol, cyn dod y blaid gyntaf i ennill mwyafrif yn Holyrood yn yr etholiad 2011 - gan sicrhau mandad ar gyfer refferendwm annibyniaeth.

Datganoli wedi helpu'r ymgyrch annibyniaeth ?

Fe roddodd Senedd yr Alban yn 1999 gyfle sylweddol i'r SNP, a oedd â llond llaw o Aelodau Seneddol. Ar y pryd roedden nhw yn ei chael hi'n anodd gwneud yr achos dros annibyniaeth yn San Steffan.

Roedd Y prif weinidog a gyflwynodd datganoli, Tony Blair, yn ymwybodol o'r cyfle posibl y gallai Senedd yr Alban ei roi i'r SNP .

Felly, penderfynwyd ar system bleidleisio rhannol gyfrannol i geisio atal yr un blaid (sef yr SNP mewn gwirionedd) rhag ennill mwyafrif.

Llwyddodd y system i atal mwyafrif i ddechrau - hyd at etholiad 2011 cafwyd dau dymor o glymblaid Llafur / Democratiaid Rhyddfrydol ac un o lywodraeth leiafrifol SNP.

Yw yr Alban eisiau annibyniaeth ?

Anodd i ddweud gydag unrhyw sicrwydd mawr ar hyn o bryd.

Nid oes prinder o ddata pleidleisio ar y mater o annibyniaeth.

Yn ôl yr arbenigwr pleidleisio John Curtice, yr Arolwg ar Agweddau Prydeinig yw'r unig un o'i fath sydd wedi gofyn yr un cwestiwn am ddewisiadau cyfansoddiadol yn mynd yn ôl at sefydlu Senedd yr Alban yn 1999.

Mae'n dweud fod cefnogaeth ar gyfer annibyniaeth wedi tueddu i fod rhwng tua chwarter a thraean, gyda'r diweddariad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr yn awgrymu fod y ffigur ar ei lefel isaf ers i senedd Holyrood gael ei greu yn 1999.

Dywedodd fod cyfanswm o 23 % o'r 1,229 o bobl a holwyd rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd y llynedd o blaid annibyniaeth.

Mewn ymateb, mae'r SNP yn dweud fod y cyfnod o amser ar gyfer y gwaith maes wedi cael ei oddiweddyd gan ddigwyddiadau.

Mae llawer o ffactorau eraill a allai effeithio ar gefnogaeth i annibyniaeth - cyflwr yr economi yn un peth , ac wrth gwrs hunllef pob gwleidydd - digwyddiadau annisgwyl.

Mae gan yr SNP fwyafrif - pam nad ydyn nhw felly yn datgan annibyniaeth?

Mae'r SNP bob amser wedi dweud bod angen cefnogaeth pobl yr Alban mewn refferendwm cyn i'r Alban allu datgan annibyniaeth.

Mae hefyd angen y mandad hwn i drafod setliad annibyniaeth gyda Llywodraeth y DU.

Beth fyddai'n digwydd os yw'r Alban yn dweud ' Ie'?

Mae Alex Salmond yn awyddus i ddatgan "Diwrnod Annibyniaeth" ym mis Mawrth 2016, gyda'r etholiadau cyntaf i senedd annibynnol ym Mis Mai.

Cyn i hynny ddigwydd , fodd bynnag, byddai angen setliad cyfansoddiadol sydd wedi ei gytuno gyda Llywodraeth y DU.

Mae amddiffyn yn fater pwysig - yn enwedig gan fod yr SNP eisiau cael gwared ag arfau niwclear Prydain o Faslane ar y Clyde.

Ar yr ochr ariannol, byddai rhaid cytuno ar faint o'r ddyled genedlaethol ddylai'r Alban etifeddu a byddai angen cytuno ar ba arian fyddai'n cylchdroi yn economi'r wlad.

Hyd yn oed ar ôl pleidlais ie, byddai rhaid goresgyn rhwystrau eraill - yr Undeb Ewropeaidd a NATO i enwi dim ond dau.

Beth sy'n digwydd os oes pleidlais ' Na'? A fyddai refferendwm arall?

Mae Alex Salmond wedi disgrifio'r refferendwm fel digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth.

Mae'r holl bleidiau yn awyddus i osgoi'r sefyllfa yn nhalaith Quebec yng Nghanada, lle bu sawl refferendwm dros y blynyddoedd.

Mae hefyd yn debygol y byddai'r sylw yn troi nôl i'r ddadl dros fwy o bwerau i Holyrood - gyda rheolaeth ariannol llawn, yn hytrach na dibynnu ar y grant gan y Trysorlys, o bosibl yn dod yn opsiwn fyddai'n cael ei gymryd fwy o ddifrif.

Straeon perthnasol