Dyn yn cyfadde' ymosod ar Bridger

Mark Bridger Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Cafodd Bridger ei garcharu am oes am lofruddio April Jones

Mae dyn sy'n treulio dedfryd oes mewn carchar wedi cyfaddef iddo ymosod ar lofrudd April Jones yn un o garchardai mwyaf diogel Prydain - Wakefield.

Plediodd Juvinai Ferreira, 22 oed, yn euog i anafu Mark Bridger wrth ymddangos gerbron Llys y Goron Leeds trwy gyswllt fideo.

Ymosododd Ferreira ar Bridger fisoedd wedi i'r dyn 47 oed gael ei garcharu am oes am lofruddio'r ferch bump oed ym Machynlleth ym mis Hydref y llynedd.

Ni chafwyd manylion yr ymosodiad yn ystod y gwrandawiad ac fe fydd Ferreira'n cael ei ddedfrydu ar Hydref 2.

Yn ôl adroddiadau ar y pryd, roedd angen triniaeth ysbyty ar Bridger yn dilyn anaf gan gyllell ar ei wyneb.

Mae Ferreira yn treulio dedfryd oes yn y carchar am lofruddio menyw yn 2008.

Straeon perthnasol