UE yn galw am amddiffyn ieithioedd bregus

Perygl Image copyright Hugovk
Image caption Er ei bod hi mewn sefyllfa fregus, mae'r Gymraeg yn gwneud yn dda o'i chymharu â rhai ieithoedd lleiafrifol eraill

Mae Senedd Ewrop wedi pleidleisio o blaid adroddiad sy'n galw ar wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd (UE) i gymryd camau i warchod ieithoedd sydd o dan fygythiad o fewn eu ffiniau.

Gallai hyn gael oblygiadau i'r iaith Gymraeg, gan ei bod hi'n cael ei hystyried i fod mewn sefyllfa 'fregus' gan UNESCO, sefydliad diwylliant y Cenhedloedd Unedig.

Fe bledleiodd y Senedd i gymeradwyo argymhellion yr adroddiad, gyda 645 pleidlais o blaid a 26 yn erbyn - bydd rhaid i'r Deyrnas Unedig nawr gynhyrchu cynlluniau i hybu'r iaith.

Nid yw'n eglur ar hyn o bryd a fyddai'n cael trosglwyddo'r cyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, sydd eisoes yn ceisio cynyddu nifer y siaradwyr drwy gyfrwng gwahanol fentrau.

'Hunaniaeth Ewropeaidd'

Mae'r adroddiad yn galw ar aelod-wladwriaethau o'r UE i "dalu mwy o sylw i'r bygythiad eithafol mae nifer o ieithoedd Ewropeaidd yn ei wynebu" ac i "ymrwymo'n llwyr i amddiffyn a hybu amrywiaeth ddiwyllianol a ieithyddol ur undeb".

Er mwyn cyflawni hyn mae'r adroddiad yn credu dylai 28 gwladwriaeth yr undeb wario arian - mae'n galw arnynt i neilltuo cyllideb "rhesymol" i'r perwyl hwn.

Yr ASE o Ffrainc François Alfonsi yw awdur yr adroddiad ac mae'n credu bod gan yr UE gyfrifoldeb i amddiffyn a chynyddu'r defnydd o ieithoedd lleiafrifol.

Dywedodd: "Amrywiaeth ieithyddol yw enaid y sefydliad Ewropeaidd. Mae cannoedd o ieithoedd o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac mae pob un yn rhan o'r hunaniaeth Ewropeaidd.

"Heb gefnogaeth gadarn gan yr Undeb Ewropeaidd ar lefel genedlaethol a lleol, byddem yn gweld dirywiad pellach mewn amrywiaeth ieithyddol dros y degawdau nesaf.

"Bydd hyn yn ein gadael ni gyd yn dlawd yn ddiwylliannol, cymdeithasol ac economaidd."

Mae Mr Alfonsi yn galw ar lywodraethau i fabwysiadu arfer da gan wledydd eraill sydd wedi profi llwyddiannau wrth hybu defnydd ieithoedd lleiafrifol.

Bu Mr Alfonsi ar ymweliad â'r Cynulliad yn ôl yn 2012, ac mae'n debyg iddo gymeradwyo'r polisïau Cymraeg o fewn y Cynulliad.

'Arwain y ffordd'

Roedd yr ASE Ceidwadol Cymreig Kay Swinburne yn aelod o'r pwyllgor wnaeth bleidleisio'n unfrydol ar gasgliadau'r adroddiad, ac fe roedd hi'n dirprwyo Mr Alfonsi wrth iddo ei lunio.

"Fel adroddwr cysgodol yr adroddiad hwn rwyf wedi amlygu'r iaith Gymraeg - lle mae mesurau polisi wedi llwyddo i gynyddu ei defnydd o fewn cymunedau ac felly gostwng y perygl iddi ddiflannu - fel enghraifft o iaith yn cael ei hybu y gall weddill Ewrop ei dilyn," meddai Ms Swinburne.

"Rwy'n falch fod yr adroddiad yn cefnogi rhannu profiadau rhwng cymunedau ac rwy'n hyderus y gall ein profiad gyda'r iaith Gymraeg arwain y ffordd.

"Mae ieithoedd yn rhan holl bwysig o'r dreftadaeth ddiwylliannol, nid ond yng Nghymru, ond ar draws yr UE. Mae'n bryderus iawn gweld faint o ieithoedd sydd nawn mewn perygl, gyda rhai yn diflannu'n gyfan gwbl.

"Rwy'n falch o weld y Senedd yn adfywio'r ffocws o fewn sefydliadau'r UE ar hybu eu defnydd."

Er ei bod hi'n cefnogi'r adroddiad, mae Ms Swinburne yn parhau i wrthwynebu galwadau ASE Plaid Cymru Jill Evans i wneud Cymraeg yn iaith swyddogol yr UE.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.