Dau wedi marw mewn damwain ffordd

Harrison Marshall
Image caption Bu farw Harrison Marshall wedi'r digwyddiad ddydd Gwener

Mae Heddlu Gwent wedi enwi'r ddau berson fu farw mewn damwain ffordd yn Sir Fynwy.

Roedd Harrison Marshall, 11, o Gas-gwent yn teithio mewn Vauxhall Corsa pan darodd y car yn erbyn Subaru glas oedd yn cael ei yrru gan Ryan Griffiths, 44, hefyd o Gas-gwent.

Bu farw'r ddau wedi'r gwrthdrawiad ar yr A466 ger Cas-gwent, am 4.37pm ddydd Gwener.

Mae'r Heddlu yn gofyn i unrhyw un welodd y digwyddiad gysylltu ar 101.