Rhybudd bod cleifion cardiaidd yn marw ar restrau aros

Dr James Wrench
Mae Dr James Wrench yn dweud bod angen i gleifion gael triniaeth yn gyflymach

Mae meddyg blaenllaw wedi rhybuddio bod cleifion yn marw wrth aros am driniaeth ar y galon, oherwydd oedi yn ysbytai Cymru.

Mae Dr James Wrench, meddyg o Bowys sydd hefyd yn arwain Rhwydwaith Cardiaidd De Cymru, yn dweud bod cleifion i fod i gael eu trin o fewn 26 wythnos.

Ond mae'n rhybuddio nad yw pob claf yn gallu aros ac yn mynd am driniaeth breifat, neu i Loegr.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod amseroedd aros wedi disgyn dros y tair blynedd diwethaf, ac maent yn disgwyl i'r sefyllfa wella ymhellach.

Mae cleifion sydd angen triniaeth arbenigol ar y galon yn cael eu trin yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac Ysbyty Morriston yn Abertawe.

Ond mae'r ysbytai yma yn methu a delio gyda'r galw am wasanaethau cardiaidd arbenigol.

Methiannau

Mae ffigyrau gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ac Arolygiaeth Iechyd Cymru yn dangos bod 152 o gleifion wedi marw wrth aros am driniaeth ar y galon yng Nghaerdydd neu Abertawe yn y bum mlynedd diwethaf.

Maen nhw'n honni bod amseroedd aros hir yn "reswm credadwy" dros y marwolaethau.

Brian Worsley
Mae'r cyn parafeddyg Brian Worsley wedi bod yn aros am lawdrinaieth brys erd chwe mis

Yn siarad gyda rhaglen Wales Today, dywedodd Dr Wrench ei fod yn flin am achos un claf 62 oed ddaeth ato yn dioddef o boen yn eu brest yn ddiweddar.

"Cafodd wybod ei fod angen angiogram ar frys, ac y byddai'n cael hynny o fewn wythnos neu 10 diwrnod.

"Aeth deufis heibio - ac mae'n amlwg beth ddigwyddodd - bu farw yn yr ysbyty o drawiad ar ei galon."

Mae Dr Wrench yn rhybuddio y bydd cleifion nad ydynt yn achosion brys yn gwaethygu os nad ydynt yn gweld arbenigwr.

Llawdriniaeth brys

Mae'r cyn parafeddyg, Brian Worsley o Orseinon wedi bod yn aros am lawdriniaeth 'brys' ers chwe mis.

Os nad yw'n cael ei drin, mae ei feddyg yn dweud bod ganddo rhwng dwy a phum mlynedd i fyw.

Cafodd ei roi ar restr aros Ysbyty Morriston chwe mis yn ôl fel achos brys. Mae Mr Worsley yn dal i aros am driniaeth.

"Y tro diwethaf i mi fynd i'r ysbyty dywedodd y cardiolegydd nad oedd yn gallu egluro, dim dyddiad, dim amser," meddai Mr Worsley.

"Rydw i eisiau byw yn hirach, gyda safon bywyd gwell na sydd gen i ar hyn o bryd.

"Rydw i wedi rhoi llawer i'r gwasanaeth iechyd, a dyma'r amser pan rydw i'w hangen nhw, ac rydw i'n teimlo eu bod nhw'n methu."

'Cyfyngiadau'

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, sy'n gyfrifol am Ysbyty Morriston wedi cydnabod bod amseroedd aros yn rhy hir, ac wedi ymddiheuro i gleifion a'u teuluoedd.

"Mae pob achos cardioleg yn cael eu hasesu a'r flaenoriaeth yn cael ei roi i'r cleifion mwyaf sâl," meddai'r bwrdd.

"Yn anffodus mae cyfyngiadau ar ein gwasanaeth sy'n rhwystro'r nifer o lawdriniaethau y gallwn ni eu cwblhau."

Dywedodd y bwrdd eu bod yn gweithio ar gynlluniau byr a hir dymor i gynyddu'r nifer o lawdriniaethau sy'n cael eu cwblhau.

Mewn llythyr i feddygon, dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn pryderu am nifer "fach ond sylweddol" o gleifion sydd wedi marw neu eu cyflwr wedi gwaethygu wrth aros am driniaeth.

Ond dywedon nhw nad yw "mynediad i driniaeth brys yn cael ei heffeithio gan oedi".

Fis diwethaf, dywedodd y bwrdd bod 12 o gleifion cardiaidd wedi marw yn y 15 mis blaenorol, a dywedodd y prif weithredwr bod y gaeaf wedi rhoi'r straen waethaf ar wasanaethau ers 30 mlynedd.

Mae'r gweinidog iechyd wedi pwysleisio bod amseroedd aros wedi disgyn dros y tair blynedd diwethaf, a hefyd yn dweud bod amodau anodd y gaeaf wedi rhoi straen ar wasanaethau. Gwrthododd yr alwad am ymchwiliad.

Mae'r Llywodraeth wedi dweud eu bod yn disgwyl i berfformiad ysbytai wella yn dilyn lansiad cynllun newydd i ddelio gyda chleifion cardiaidd.