Ffrae am gynllun i dorri coed yng Nghoedwig Niwbwrch

  • 5 Medi 2013
Gwiwer goch Image copyright PA
Image caption Ailgyflwynwyd y wiwer goch i Goedwig Niwbwrch yn 1998

Mae cynllun i dorri coed mewn coedwig sydd yn gartref i wiwerod coch yn achosi pryder ar Ynys Môn.

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod y cynlluniau yng Nghoedwig Niwbwrch yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi "torri addewidion".

Maent yn honni bod y gweinidogion wedi torri addewidion am gonsensws gwyddonol ar unrhyw newidiadau i'r coetir.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod adolygiad gwyddonol yn mynd ymlaen ar hyn o bryd.

Dywedodd y corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru bod y cynlluniau yn ymwneud ag ardaloedd bychain o goed, lle'r oedd llawer o'r coed yn marw neu ar fin marw.

Ond mae ymgyrchwyr yn anghytuno ac wedi galw cyfarfod cyhoeddus yn Niwbwrch ar nos Iau i ystyried cymryd eu her i Lys Cyfiawnder Ewrop.

'Honiadau camarweiniol'

Mae trigolion yn honni bod Llywodraeth Cymru yn paratoi i anwybyddu rheolau cadwraeth yr UE drwy ganiatáu cynigion Cyfoeth Naturiol Cymru i dorri coed cyn i adolygiad gwyddonol annibynnol a addawyd cael ei gwblhau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr honiadau yn "gamarweiniol".

Mae nifer o goed eisoes wedi eu marcio, sydd wedi ysgogi gwrthwynebwyr i honni gallai rhannau o'r goedwig cael eu torri i lawr.

Dywedodd Emlyn Parry-Williams, sydd â thyddyn ar gyrion y goedwig, bod yr anghydfod yn dyddio'n ôl i 2004 pan gyflwynwyd cynlluniau i dorri mwy na thraean o'r coed.

Image copyright Cyfoeth Naturiol Cymru
Image caption Dechreuwyd y gwaith o blannu Coedwig Niwbwrch yn 1947

Dywedodd: "Mae'n ymddangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn credu bod y broses wedi cael ei setlo, ac oherwydd hynny bod ei gyfrifoldeb i'r cyhoedd yn gyffredinol ac i drigolion lleol yn benodol wedi dod i ben.

"Nid diwedd y mater yw hi, dim ond y dechrau.

"Mae yna lawer i'w ddeall, i'w drafod ac i gytuno arno."

'Chwarae gwleidyddiaeth'

Dim ond tair ardal yng Nghymru sydd â gwiwerod coch ac mae Ynys Môn yn un ohonynt.

Dywedodd y gwyddonydd ymchwil annibynnol Dr Craig Shuttleworth, sydd wedi gweithio ar brosiectau yn ymwneud â'r wiwer goch ar draws y DU, ei bod yn amcangyfrif bod 550 hectar (1,400 erw) o'r goedwig yn ddigon aeddfed i gynnal poblogaeth o 150-200 o wiwerod coch.

Ond ni allai wybod beth fyddai effaith colli rhai o'r coed oherwydd bod pobl wedi bod yn "chwarae gwleidyddiaeth â'r goedwig ar nifer o lefelau," meddai.

Ychwanegodd Dr Shuttleworth: "Yr hyn yr ydym ei angen yw i'r adolygiad gwyddonol gael ei gwblhau.

"Ni ddylai'r ansicrwydd fod yno. Rwyf wedi bod yn mynd ar drywydd Llywodraeth Cymru am hyn am dair blynedd."

Mewn datganiad dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Yr ydym ni, ac ein sefydliadau rhagflaenol, wedi ymgynghori'n helaeth gyda phobl leol ac arbenigwyr ar ein cynigion ers 2004, gan wneud llawer o newidiadau i'n cynlluniau o ganlyniad.

"Os bydd adolygiad Llywodraeth Cymru yn dod i'r casgliad bod y sail wyddonol ar gyfer y cynigion i reoli'r ardal yn gadarn, yna byddwn yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i ddileu rhai ardaloedd bychain o goed.

"Mae'n hollol anghywir i ddweud y bydd rhannau helaeth o'r goedwig yn cael ei thorri."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto.

"Rydym yn bwriadu cyhoeddi mwy o wybodaeth am yr adolygiad yn fuan iawn a chyn y cyfarfod gyda Phartneriaeth Gyswllt Coedwig Niwbwrch ar 11 Medi."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.