Rheolwr newydd i Stadiwm y Mileniwm

Stadiwm Mileniwm
Mark Williams fydd rheolwr newydd Stadiwm y Mileniwm

Cyn lefftenant-cyrnol gyda chatrawd frenhinol Cymru sydd wedi ei benodi yn rheolwr newydd Stadiwm y Mileniwm ar ran Undeb Rygbi Cymru.

Mae gan Mark Williams, 42 oed o Lyn-nedd, ugain mlynedd o brofiad fel swyddog yn y fyddin, ac mae wedi gwasanaethu sawl tro yng Ngogledd Iwerddon, Bosnia, Kosovo ac Irac lle cafodd ei anrhydeddu am ei waith.

Wrth ymddeol o'r fyddin bydd Mr Williams yn ymuno â bwrdd rheoli Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddarach yn y mis.

Bydd ganddo gyfrifoldeb llawn am weithredoedd y Stadiwm, a dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis:

"Byddwn yn croesawu Cwpan Rygbi 13 y Byd i Gaerdydd ac yna cyfres gemau'r hydref yn erbyn De Affrica, Ariannin, Tonga ac Awstralia.

"Rwy'n hyderus bod gan Mark y sgiliau rheoli ac arweiniad sydd eu hangen i fanteisio ar y cyfleoedd yma a pharhau i wella enw da'r Stadiwm fel canolfan i ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol.

"Mae'r Stadiwm yn symbol o Gymru ac mae Mark yn gwbl ymwybodol o'r cyfrifoldeb sydd ynghlwm â'r rôl."

'Diwylliant a hunaniaeth'

Dywedodd Mark Williams ei bod yn anrhydedd cael ei benodi i'r swydd, gan ychwanegu:

"Fel Cymro balch a chefnogwr rygbi rwy'n deall pwysigrwydd y stadiwm i ddiwylliant a hunaniaeth Cymru.

"Mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi trefnu calendr rygbi rhyngwladol gwych am flynyddoedd i ddod, ac mae diddordeb yn y Stadiwm fel canolfan i gerddoriaeth a digwyddiadau pwysig eraill yn fawr.

"Rhaid i ni gynnal safonau ac addasu pan fo angen i sicrhau bod pawb sy'n defnyddio'r Stadiwm yn cael profiad unigryw i'w gofio."