Arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

Car Heddlu
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yng nghyffiniau Ffordd Câs-Gwent adeg y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101

Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn 24 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Daw hyn ar ôl i ergydion o wn peled gael eu tanio yn y ddinas nos Fawrth.

Mae dau ddyn o Gaerdydd, 22 a 24 oed, gafodd eu harestio ddydd Mercher arestio ar amheuaeth o fod ynghlwm â chyflenwi cyffuriau, yn parhau yn y ddalfa.

Cafodd yr heddlu eu galw am tua 11:30pm yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad ger tafarn Crosshands ar Ffordd Câs-Gwent ddydd Mawrth.

Roedd dau gerbyd yn teithio ar hyd y ffordd. Cred yr heddlu bod peledi wedi cael eu tanio o gerbyd 1 at gerbyd 2 gan achosi i gerbyd 2 gael gwrthdrawiad.

Roedd tri pherson yn teithio yng ngherbyd 2 - dau ddyn ac un fenyw - ac fe gafodd y tri eu cludo i'r ysbyty am driniaeth.

Roedd gan y fenyw anaf i'w chefn ac un dyn fân anaf o ganlyniad i'r gwrthdrawiad. Cafodd y trydydd dyn anaf i'w ben o ganlyniad i danio peled o wn.

Mae'r tri bellach wedi cael mynd adref o'r ysbyty.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yng nghyffiniau Ffordd Câs-Gwent adeg y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod 586 03/09/13.