'Angen system newydd o ddysgu'r Gymraeg i bawb'

  • 4 Medi 2013
Dywed y llythyr y dylid rhoi'r gorau i'r cysyniad o "ddysgu'r Gymraeg yn ail iaith".
Dywed y llythyr y dylid rhoi'r gorau i'r cysyniad o "ddysgu'r Gymraeg yn ail iaith".

Mae nifer o bobl adnabyddus wedi llofnodi llythyr at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn galw am system addysg lle y byddai "pob disgybl yn rhugl yn yr iaith ac yn derbyn peth o'i addysg yn Gymraeg".

Ymhlith y sawl sydd wedi llofnodi'r llythyr y mae'r Archdderwydd Christine James, yr aelod cynulliad Llafur Ann Jones ac aelod seneddol Plaid Cymru Jonathan Edwards.

Dywed y llythyr y dylid rhoi'r gorau i'r cysyniad o "ddysgu'r Gymraeg yn ail iaith".

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd o addysgu a dysgu Cymraeg fel ail iaith yn ein hysgolion, ac yn croesawu unrhyw ymatebion".

'Egwyddor'

Dyma'r llythyr yn llawn:

"Galwn ar y Llywodraeth i dderbyn yr egwyddor fod y gallu i gyfathrebu a gweithio'n Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl ohono.

"Galwn am ymrwymiad i roi heibio'r cysyniad o "ddysgu'r Gymraeg yn ail iaith" gan ei bod yn perthyn i bob disgybl, a dylid cyflwyno system newydd o ddysgu'r Gymraeg i bawb fel y daw pob disgybl yn rhugl yn yr iaith ac yn derbyn peth o'i addysg yn Gymraeg.

"Galwn ar y llywodraeth, wedi derbyn yr egwyddor, i gynnal trafodaethau brys gyda'r byd addysg er mwyn llunio rhaglen i weithredu hyn, gan ddechrau gyda'r Blynyddoedd Cynnar".

Llofnodwyd y llythyr gan Ann Jones AC, Archdderwydd Cymru Christine James, Llŷr Huws Gruffydd AC, Jonathan Edwards AS, Susan Elan Jones AS, Adam Price, Cyng Arwel Roberts, Cyng Arfon Jones, Cyng Cefin Campbell, Ioan Talfryn, Gayle Lister, Cyng. Siân Thomas, Toni Schiavone, Athro Gareth Roberts, Nia Royles, Richard Snelson, Meirion Prys Jones, Aled Davies, Heini Gruffudd, Dr Menna Machreth, Dr Simon Brooks, Mererid Hopwood, Gai Toms, Catrin Dafydd, Mike Jones, Robin McBryde, Felicity Roberts, Huw Gwyn, Jamie Bevan, Gruff Roberts Diserth, Colin Nosworthy, Ffred Ffransis.

'Perthyn i bawb'

Esboniodd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, Ffred Ffransis: "Nid 'ail' iaith yw'r Gymraeg gan ei bod yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac arwydd o fethiant addysgol yw i unrhyw ddisgybl ymadael â'r ysgol heb fedru byw a gweithio'n Gymraeg mewn gwlad fodern ddwyieithog.

"Rhaid i ni symud at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn o leiaf ran o'i addysg yn Gymraeg fel y dysgant sut i ddefnyddio'r iaith.

"Does dim modd cyflawni'r fath newid dros nos ac y mae'r rhai sydd wedi arwyddo'r llythyr (oll fel unigolion preifat) yn galw ar Carwyn Jones i dderbyn yr egwyddor a dechrau trafodaethau am sut i'w gweithredu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd o addysgu a dysgu Cymraeg fel ail iaith yn ein hysgolion, ac yn croesawu unrhyw ymatebion i hwn.

"Mi fydd y grŵp sy'n cynnal yr adolygiad yn adrodd yn ôl yn yr hydref."

Mae modd cynnig sylwadau i'w hystyried gan y grŵp sy'n cynnal yr adolygiad trwy e-bost: addysg.gymraeg@ cymru.gsi.gov.uk neu trwy'r post ar yr Uned Cymraeg mewn Addysg, Llywodraeth Cymru, Bedwas, Caerffili, CF83 8WT.