Llythrennedd: Cymru ar ei hôl hi?

  • 4 Medi 2013
Dosbarth ysgol gynradd Image copyright PA
Image caption Mae disgyblion o flynyddoedd 2 i 9 yn sefyll y profion

Mae honiad fod plant saith oed yng Nghymru yn llusgo y tu ôl i'w cyfoedion yn Lloegr o safbwynt lythrennedd, yn ôl astudiaeth diweddar.

Mae'r ymchwil ar ddata o 2007 yn dangos bod disgyblion yn y ddwy wlad wedi sgorio'n gyfartal ar gyfer rhifedd, ond mae'r bwlch mewn lefelau llythrennedd yn cynyddu wrth iddynt dyfu.

Dywedodd yr Athro Chris Taylor o Brifysgol Caerdydd bod Cymry saith oed ar gyfartaledd fis y tu ôl o ran geirfa.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mesurau i wella llythrennedd wedi cael eu cyflwyno.

Ofni dirywiad

Mae'r Ganolfan Astudiaethau Hydredol, sy'n astudio datblygiad plant, wedi bod yn dilyn cyflawniadau addysgol 19,000 o fabanod a anwyd yn y DU yn ystod y flwyddyn 2000-2001, gyda 2,000 o'r rheiny yn dod o Gymru.

Pan gawsant eu profi yn dair oed, roedd plant yng Nghymru ar yr un lefel â Lloegr o ran eu safonau llythrennedd , er bod pobl ifanc yr Alban ar y blaen.

Yn y blynyddoedd dilynol, meddai'r adroddiad, mae disgyblion Seisnig wedi neidio ar y blaen i weddill y DU o ran eu cyflawniadau llythrennedd, gyda Chymru ar ei hôl hi.

Dywedodd yr Athro Taylor, a ddadansoddodd y data, er nad oedd yr awgrym bod plant Cymru fis y tu ôl yn eu geirfa yn ymddangos yn llawer, roedd ofnau y byddai'r dirywiad mewn safonau yn parhau.

"Fe fydd yn ddiddorol pan fydd y plant hyn yn cael eu profi nesaf pan fyddant yn 10-11 oed ar ddechrau'r flwyddyn nesaf" meddai.

'Angen gwella'

Dywedodd bod angen i'r ffigurau gael eu trin yn ofalus gan fod y profion ar gyfer plant saith oed wedi cael eu cynnal yn 2007, er bod y data dim ond ar gael yn ddiweddar.

Ers hynny bu llawer o newidiadau mewn addysg yng Nghymru megis cyflwyno'r cyfnod sylfaen ar gyfer plant 3-7 oed.

Fe ddechreuodd hynny yn 2008, gan annog y disgyblion ieuengaf i ddefnyddio eu dychymyg a dysgu trwy chwarae a gweithgareddau awyr agored.

Mae yna hefyd Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o wella safonau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod yn "gwbl glir bod angen i safonau a pherfformiad yng Nghymru, yn enwedig mewn llythrennedd a rhifedd, wella."

Trafod camau

Mae'n dweud eu bod eisoes wedi cyflwyno mesurau i wneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, sydd wedi dod yn statudol mewn ysgolion o'r mis hwn, a phrofion darllen a rhifedd cenedlaethol.

Ym mis Mai eleni fe wnaeth disgyblion yn ysgolion Cymru sefyll y profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol newydd am y tro cyntaf.

Mae'r profion wedi disodli'r profion a gafodd eu cynhyrchu'n fasnachol ac a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan ysgolion.

Mae disgyblion o flynyddoedd 2 i 9 yn sefyll y profion.

"Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau fel y sail ar gyfer trafodaethau gydag awdurdodau lleol am y camau y gellir eu cymryd i ddatrys amrywiadau a gwella perfformiad darllen a rhifedd," ychwanegodd Llywodraeth Cymru.

Yn adroddiad blynyddol Estyn - y corff arolygu ysgolion yng Nghymru - a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr, mynegwyd pryder am safon sgiliau darllen, llythrennedd a rhifedd ar draws holl sectorau ysgolion Cymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.