Apêl wedi i aelod staff gael ei fygwth mewn gorsaf yng Nghaerdydd

Llun o gamera cylch cyfyng
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw'n awyddus i'w holi

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn apelio am gymorth wedi i aelod staff y rheilffordd gael ei fygwth yng ngorsaf Heol y Frenhines yng Nghaerdydd.

Maen nhw wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw'n awyddus i'w holi wedi'r digwyddiad ddydd Iau, Gorffennaf 18, am 7:50am.

Dywedodd y swyddog sy'n gyfrifol am yr ymchwiliad, Y Cwnstabl Dave Miles: "Fe drodd anghydfod rhwng teithiwr ac aelod staff ger y clwydi tocynnau yn yr orsaf yn wrthdaro ac fe gafodd yr aelod o staff ei sarhau a'i fygwth.

"Gadawodd y dyn yr orsaf yn syth ond fe ddychwelodd yn fuan wedyn gan weiddi ar yr aelod staff eto cyn ei wthio i ffwrdd.

"Er na chafodd ei anafu cafodd yr aelod staff ei ysgwyd gan y digwyddiad cwbl annerbyniol yma. Mae gan staff yr hawl i wneud eu gwaith heb ddiodde'r math yma o ymddygiad."

Ar ôl astudio lluniau o gamera cylch cyfyng mae'r heddlu wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw'n awyddus i'w holi, dyn gwyn o gorff cadarn gyda gwallt byr tywyll.

Roedd yn gwisgo crys-T porffor a throwsus tri-chwarter llwyd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y dyn ffonio'r heddlu ar 0800 405040, gan nodi'r cyfeirnod B13/WCA. Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.