Abertawe yn cyrraedd y rownd nesaf

Roland Lamah Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roland Lamah sgoriodd unig gôl Abertawe, wrth i'r Elyrch ennill 6-3 ar gyfanswm goliau

Mae Abertawe wedi cyrraedd rownd nesaf y Gynghrair Ewropa, er iddyn nhw golli o 2-1 i Petrolul Ploiesti yn Romania nos Iau.

Roedd yr Elyrch ar y blaen o 5-1 wedi'r cymal cyntaf yn y Stadiwm Liberty wythnos ynghynt, a 6-3 oedd y sgôr terfynol ar gyfanswm goliau.

Roedd y rheolwr Michael Laudrup wedi newid chwe chwaraewr o'r tîm gurodd yn Abertawe yn y cymal cyntaf, gyda'r ymosodwr ifanc Rory Donnelly yn dechrau ei gêm gyntaf i'r Elyrch.

Cafodd Donnelly gyfle cynnar wedi chwarae da gan Michu yn yr hanner cyntaf, ond doedd yr ymosodwr ifanc methu trafferthu'r gôl-geidwad.

Roedd hi'n ddi-sgôr yn yr egwyl diolch i beniad gwych Leon Britton i glirio'r bel oddi ar linell gôl Abertawe yn munudau olaf yr hanner cyntaf.

Y tîm cartref ddaeth allan yn gryfach yn yr ail hanner, a Njongo Priso sgoriodd gyntaf gan rwydo wedi 73 munud.

Sgoriodd Roland Lamah llai na munud yn ddiweddarach i ddod a'r Elyrch yn gyfartal, cyn i Hamza Younes benio i'r gôl i roi buddugoliaeth i Ploiesti ar y noson.

Cafodd capten Abertawe, Leon Britton ei yrru o'r cae yn hwyr yn y gêm wedi iddo dderbyn ei ail gerdyn melyn, ond bydd hynny'n anhebygol o boeni'r Elyrch sy'n symud ymlaen i rownd y grwpiau.

Bydd Abertawe yn cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf pan fydd yr enwau yn cael eu tynnu o'r het ar gyfer y grwpiau yn Monaco ddydd Gwener.

Petrolul Ploiesti 2 - 1 Abertawe

Abertawe yn ennill 6-3 ar gyfanswm goliau.

Straeon perthnasol