Bale yng ngharfan bêl-droed Cymru

Gareth Bale yn y gêm yn erbyn Croatia
Gareth Bale yn y gêm yn erbyn Croatia

Mae asgellwr Tottenham, Gareth Bale wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Macedonia a Serbia.

Bu cryn sôn yn ddiweddar y gallai symud i Real Madrid, ond mae disgwyl iddo chwarae dros Gymru beth bynnag yw ei sefyllfa o ran ei glwb.

Mae Aaron Ramsey, Joe Allen a Neil Taylor hefyd wedi eu cynnwys er gwaethaf anafiadau.

Bydd Cymru yn teithio i Macedonia ar gyfer y gêm ar ddydd Gwener, Medi 6, cyn chwarae Serbia yn Stadiwm Dinas Caerdydd y dydd Mawrth canlynol.

Mae ymosodwr Caerdydd, Craig Bellamy, 34 oed, hefyd yn y garfan, fel y mae golwr Wolves, Wayne Hennessey.

Carfan Cymru:

Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Owain Fon Williams (Tranmere Rovers), Ben Davies (Abertawe), Neal Eardley (Birmingham City), Danny Gabbidon (Crystal Palace), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Wolverhampton Wanderers), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe), Joe Allen (Lerpwl), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Caerlyr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), Andrew Crofts (Brighton & Hove Albion), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Charlton Athletic), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).