Darganfod corff yn Llyn Syfydrin

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod corff wedi ei ddarganfod yn Llyn Syfydrin ger Ponterwyd yng Ngheredigion brynhawn Mawrth.

Roedd y gwasanaethau brys a tîm deifio arbenigol wedi bod yn chwilio.

Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol ond mae'r heddlu wedi bod yn chwilio am ddyn aeth ar goll yn yr ardal brynhawn Llun.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn cael cefnogaeth plismyn arbenigol.