Argyfwng Syria: Senedd yn ail-ymgynnull ddydd Iau

Y Prif Weinidog David Cameron
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi dychwelyd yn gynnar o'i wyliau oherwydd y sefyllfa yn Syria

Bydd Aelodau Seneddol yn ail-ymgynnull ddydd Iau i drafod sut y dylai Prydain ymateb i'r argyfwng yn Syria.

Fe ddaw'r penderfyniad ar ôl ymosodiad cemegol honedig ar gyrion Damascus yr wythnos ddiwethaf.

Mae America wedi gwneud yr awgrym cryfa' eto y bydd hi'n ymateb yn filwrol.

Mae'r Tŷ Gwyn a'r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud eu bod yn credu mai lluoedd Arlywydd Assad ymosododd â'r arfau cemegol.

Dywedodd Mr Cameron fod Prydain yn ystyried opsiynau milwrol.

"Does dim wedi ei benderfynu eto ond mae angen i ni a'n cynghreiriaid benderfynu beth i'w wneud ... fe allai camau milwrol cyfyngedig atal arfau cemegol yn y dyfodol."

'Angen esboniad'

Ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru croesawodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb ail-ymgynnull y Senedd.

Dywedodd y byddai angen arno "dipyn o waith perswadio i gyfiawnhau a chefnogi ymyrraeth filwrol heb gael esboniad ynghylch be' fyddai nod yr ymyrraeth".

Dywedodd AS Gorllewin Casnewydd Paul Flynn wrth y BBC nad oedd yn gyd-ddigwyddiad fod papurau newydd fore Mawrth yn arwain gyda straeon bod y DU am ddefnyddio grym yn Syria.

Honnodd Mr Flynn fod y papurau wedi cael gwybodaeth gan Downing Street "er mwyn gweld beth yw ymateb y cyhoedd."

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod dros 1.75 miliwn wedi ffoi o Syria ers dechrau'r ymladd a'r gwrthryfel dair blynedd yn ôl.