Real Madrid yn cyflwyno dau gynnig gwahanol ar gyfer Bale

Gareth Bale Image copyright Getty Images
Image caption Mae trafodaethau wedi eu cynnal ers sawl wythnos rhwng y ddau glwb ynghylch Gareth Bale

Mae Real Madrid wedi cyflwyno dau gynnig ar gyfer y chwaraewr pêl droed Gareth Bale ac yn disgwyl i weld a fydd Tottenham yn fodlon derbyn un o'r ddau.

Y cynnig cyntaf yw €100m sef £86m gyda thaliadau dros y tair neu bedair blynedd nesaf. Byddai'r swm hwn yn fwy na faint wnaeth y clwb rhoi i gyn chwaraewyr Manceinion Unedig, Cristiano Ronaldo.

Yr ail gynnig yw un taliad a fyddai yn agosach i £70m. Fe allai chwaraewr arall hefyd gael ei gynnig gan Real Madrid fel rhan o'r cytundeb.

Mae'r trafodaethau ynghylch y Cymro 24 oed wedi para sawl wythnos.

Os nad oes cyhoeddiad ddydd Sadwrn dyw hi ddim yn debygol y bydd yna unrhyw newyddion tan ddydd Mawrth am fod Real Madrid yn chwarae gêm i ffwrdd nos Lun.

Straeon perthnasol