Damwain beic modur: y car ddim yn stopio

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi damwain ar gyffordd Bancyfelin ger Caerfyrddin ar yr A40 fore Sadwrn.

Dywed yr heddlu y bu'n rhaid i yrrwr beic modur heddlu osgoi car lliw golau oedd yn croesi ei lwybr.

Achosodd hyn i'r heddwas golli rheolaeth a chael ei daflu o'r beic modur.

Wnaeth y car ddim stopio ac fe welwyd ef yn gyrru i gyfeiriad Caerfyrddin.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 a rhoi'r cyfeirnod 08453302000.