Adar Gleision: gorymdaith i gofio hanes y clwb

  • 25 Awst 2013
Walk in Cardiff city centre
Image caption Dywedodd y trefnwyr nad gorymdaith yn erbyn y clwb oedd hwn ond eu bod eisiau i'r perchnogion dalu sylw

Mae cefnogwyr pêl droed Caerdydd sydd yn gwrthwynebu newid lliw'r crys o las i goch wedi bod yn dathlu hanes y clwb.

Dywed trefnwyr y daith, Adar Gleision Unedig nad gorymdaith yn erbyn y clwb oedd hwn.

Fe wnaethon nhw gerdded o Gastell Caerdydd i'r stadiwm a hynny cyn y gêm gyntaf gartref yn yr uwch gynghrair yn erbyn Manchester City.

Fe newidiodd perchennog y clwb, Vincent Tan, liwiau'r crysau i goch y llynedd a gwneud yr aderyn glas yn llai amlwg ar y logo.

Talu sylw

Dywedodd Sian Branson o Adar Gleision Unedig: "Rydyn ni yn ceisio gwneud rhywbeth positif. Mae'n daith i ddathlu hanes ac etifeddiaeth y clwb pêl droed.

"Allwn ni ddim deall y rheswm am ail-frandio ond dydyn ni ddim yn gorymdeithio yn erbyn y clwb nac yn dweud 'Tan mas'.

"Dyma'r gêm gyntaf yn yr uwch gynghrair a dydyn ni ddim yn cael ein cynrychioli ar y cae fel ein clwb ni ac rydyn ni yn ceisio dangos beth mae e yn golygu i ni. Pam y dyle popeth cyn y llynedd gael ei anghofio?

"Rydyn ni yn gobeithio y bydd y perchennog yn talu sylw ac yn gweld bod e yn gamgymeriad a bod modd ei gywiro fe erbyn y tymor nesaf."

Fe ddaeth ryw 300 o gefnogwyr i gymryd rhan yn yr orymdaith.

Ail frandio

Fe fuddsoddodd Tan £6m yn y clwb wedi i'w ffrind, Dato Chan Tien Ghee, sef cyn-gadeirydd Caerdydd ofyn iddo wneud ryw dair blynedd yn ôl.

Image copyright Cardiff City FC
Image caption Y logo hen (chwith) a'r un newydd (dde)

Yn wreiddiol roedd yn y cefndir ar ôl rhoi £30m i'r tim pêl droed ond mae wedi penderfynu chwarae rôl fwy blaenllaw yn ddiweddar.

Un o'r pethau cyntaf y gwnaeth ef oedd ail frandio'r clwb. Roedd y newidiadau yn rhai dadleuol gydag Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd yn dweud ei bod yn siomedig gyda'r penderfyniad a bod yna ddiffyg ymgynghori wedi bod gyda'r cefnogwyr.

Dadl Vincent Tan oedd bod coch yn lliw mwy deinamig ar gyfer marchnata'r clwb yn Asia, ac yn fwy nodweddiadol o Gymru.

Y tymor diwethaf fe sicrhaodd yr Adar Gleision ddyrchafiad i uwch gynghrair Lloegr ac maent wedi chwarae un gêm yn y tymor newydd yn erbyn West Ham gan golli o ddau gol i ddim.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.