'Angen i Gymry Cymraeg fentro,' medd AC

Aberaeron
Yn ôl perchennog un busnes yn Aberaeron, mae Cymry Cymraeg yn mentro ac yn llwyddo yn y maes

Wrth i'r amcangyfrifon swyddogol am gyflwr economi Prydain awgrymu ychydig o dwf, mae Aelod Cynulliad yn credu y gallai Cymry Cymraeg wneud mwy o'r cyfleoedd, yn enwedig wrth fentro ym myd twristiaeth.

Dadl Elin Jones, AC Plaid Cymru dros Geredigion, yw nad yw Cymry bob tro'n barod i fentro.

Dywedodd: "Mae'n waith sy'n gynyddol bwysig yn yr ardaloedd gorllewinol lle mae sectorau eraill efallai wedi lleihau.

"Mae'r sector twristiaeth yma ar hyn o bryd ac yn mynd i fod yna i'r dyfodol rhagweladwy, felly rhaid i'r Cymry Cymraeg fod yn rhan ganolog o'r diwydiant neu fe fyddwn ni'n eithrio'n hunain o un o brif sectorau busnes yr ardal."

'Mentro a llwyddo'

Ond dywedodd Menna Heulyn, perchennog Gwesty'r Harbwrfeistr yn Aberaeron: "Pan y'n ni'n edrych ar beth sy'n digwydd yn Aberaeron, mae'n ffynnu.

O flwyddyn i flwyddyn mae mwy o bobl yn mentro - mwy o siopau, gwestai a thai bwyta - a Chymry Cymraeg sy'n eu rhedeg nhw.

"Felly beth sy'n digwydd yn Aberaeron, ac yng Ngheredigion ymysg y bobl y'n ni'n eu nabod, yw bod Cymry Cymraeg yn mentro ac yn llwyddo."

Golygydd gwadd rhaglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ddydd Gwener oedd cyn bennaeth Croeso Cymru, Jonathan Jones, ac roedd yn cytuno gyda'r AC fod angen mwy o Gymry Cymraeg yn y maes.

'Swyddi sy'n bwysig'

"Fe ddylen nhw fod yn rhan bwysig o'r diwydiant," meddai, "achos os na allwn ni wahaniaethu rhwng Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ry'n ni wedi ei cholli hi.

"Rwy'n cytuno 100% gydag Elin, ond mae Menna a Glyn yn Aberaeron wedi dangos bod y Cymry Cymraeg yn gallu llwyddo ac wedi rhoi esiampl wych o sut i ymwneud â busnesau twristiaeth ac mae enghreifftiau eraill gwych hefyd.

"Ond mae angen mwy, a swyddi sy'n bwysig. Rhaid i ni greu mwy yng nghefn gwlad ac mae'n rhaid creu swyddi i bobl Cymraeg eu hiaith yn eu cymunedau, achos os na wnawn ni hynny y'n ni'n mynd i golli'r iaith a'r bobl ifanc o gefn gwlad."