Ymchwilio i ymosodiadau rhyw honedig yn Abertawe

  • 22 Awst 2013
Swansea's LC
Mae'r heddlu yn gofyn i dystion gysylltu gyda nhw

Mae'r heddlu'n ymchwilio i ymosodiadau rhyw honedig yn Abertawe.

Roedd yr ymosodiadau honedig yn y ganolfan hamdden yn Heol Ystumllwynarth ar ferched wyth, naw a 15 oed tua 4.20pm.

Ar y pryd roedden nhw yn y pwll mawr.

Cafodd y ganolfan ei chau am gyfnod brynhawn Mercher tra oedd plismyn yn chwilio'r adeilad.

Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu 01792 450618 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Mae'r dyn o dan amheuaeth â gwallt brown hyd at ei goler. Dyw e ddim wedi eillio ac mae'n gwisgo trowsus byr glas neu ddu.