Cynghrair Cymru Tymor 2013/14: Y Bala

  • 24 Awst 2013
Mark Jones
Image caption Mae Hannah yn gobeithio bydd capten Y Bala Mark Jones ar dan eto'r tymor hwn

Fel cefnogwr selog Y Bala rwyf yn edrych ymlaen at y tymor newydd.

Ar ôl chwarae yn y gemau Ewropeaidd yn erbyn Levadia Tallinn ym mis Gorffennaf mae'r Bala wedi cael ymgyrch gemau cyfeillgar llwyddiannus gan golli 'run gem.

Mae'r rheolwr Colin Caton, sydd yn cychwyn ei 11eg tymor gyda'r Bala wedi arwyddo un chwarewr hyd yn hyn sef Ryan Valentine.

Mae Ryan yn gyn-chwaraewr Wrecsam ac wedi ymuno o AFC Telford ac yn syth bin wedi setlo fewn i'r amddiffyn yn ochr Stuart Jones a Tony Davies gyda'i brofiad a'i gryfder.

Mae yna o leiaf dau chwaraewr arall ei angen sef amddiffynnwr canol am fod Tony Davies allan am 6 mis achos anaf i'w ben-glin a blaenwr.

Rydym wedi colli John Irving sydd wedi mynd i deithio i Seland Newydd a Lee Hunt i'w gyn-glwb Prestatyn dros yr haf ond nid wyf yn poeni'n ormodol am y tîm yn sgorio goliau.

Mae Ian Sheridan a Lewis Codling wedi bod yn chwarae'n dda ac mae Mark Connolly, Mark Jones a Stephen Brown hefyd yn beryg o flaen y gol.

Un peth sydd gan Bala o'u plaid yw bod gan y tîm gyflymder ymhob safle gyda Collins ac Edwards yn y cefn, Connolly, Brown a Murtagh yn y canol a Sheridan a Codling yn y blaen.

Er hyn nid wyf yn siŵr sut dymor geith Y Bala eleni. Cafom gychwyn drwg tymor diwethaf a gorffen yn gryf gyda 13 buddugoliaeth yn olynol.

Mae'r gemau ar y cychwyn mynd i fod yn anodd gyda Phrestatyn i ffwrdd a Airbus adref y ddwy gêm gyntaf ac wedyn gyda'r Seintiau Newydd a gêm ddwbl yn erbyn Bangor dros y Nadolig.

Am fod y clybiau eraill wedi cryfhau dwi am ddweud mi orffennwn ni yn 6ed a gobeithio am rediad da yng Nghwpan Cymru ac anelu am gemau ailgyfle Ewrop unwaith eto.