Biliau dŵr i gynyddu yng Nghymru

Dŵr Cymru
Mae'r cwsmeriaid Dŵr Cymru yn talu £434 y flwyddyn ar gyfartaledd

Mae cwsmeriaid dŵr yng Nghymru yn talu tua £20 ychwanegol ar eu biliau blynyddol i dalu am y gost pobl sydd heb dalu - a gallai hyn godi i £50 yn ystod y degawd nesaf.

Dros dair blynedd mae yna gynnydd o 430% wedi bod yn y 'dyledion drwg' mae cwmnïau dŵr wedi eu dileu a'u drosglwyddo i gwsmeriaid.

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod y rhan fwyaf o ddyledwyr yn byw yn y sector rhentu.

Maen nhw yn ystyried gorfodi landlordiaid i roi manylion eu tenantiaid i gwmnïau dŵr mewn ymgais i leihau biliau.

'Dyled ddrwg'

Mae 'dyled ddrwg' yn deillio o filiau sydd heb eu talu ac sy'n cael eu dileu gan gwmni fel colled oherwydd nid oes modd casglu'r ddyled neu mae'r gost o wneud hynny yn uwch na'r ddyled ei hun.

Fe gafodd cwmnïau dŵr eu gwahardd rhag datgysylltu'r cyflenwad dŵr yn 1999 ac er hynny maent wedi gweld cynnydd mewn 'dyledion drwg'.

Mae lefel y 'dyledion drwg' yn arbennig o uchel yng Nghymru ac mae wedi cynyddu dros bedair gwaith mewn tair blynedd - y ffigur diweddaraf yw bron i £12 miliwn.

Ffordd y cwmnïau o adennill yr arian yw drwy rannu'r gost rhwng gweddill eu cwsmeriaid sy'n golygu fod cost biliau pobl sydd yn talu eu biliau yn cynyddu er mwyn talu am gost dyledion rheiny sydd yn peidio â thalu.

Amcangyfrifir bod y cartref cyffredin yn talu rhyw £20 yn ychwanegol y flwyddyn am eu biliau dŵr sydd eisoes yn codi.

Bydd prisiau dŵr yn codi eleni eto yng Nghymru, er bod y cynnydd yn is o'i gymharu â'r cyfartaledd ar draws Prydain.

Cynnydd

Mae'r rhan fwyaf o gartrefi yng Nghymru yn cael eu gwasanaethu gan Dŵr Cymru.

Byddant yn talu £434 ar gyfartaledd yn dilyn cynnydd o 1.7% yn eu biliau.

Mae biliau cwsmeriaid Severn Trent (2.2%) a Dee Valley (4.1%) sydd hefyd yn gwasanaethu cyfran o gartrefi Cymreig hefyd yn mynd i gynyddu

Mae cynnydd mewn biliau eraill wedi arwain at tua 30% o gartrefi Cymru (410,000) yn gwario mwy na 3% o'u hincwm ar filiau, a 14% (190,000) yn gwario mwy na 5%.

Mae hyn yn cymharu gyda 23% a 11% yn Lloegr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, yn y sector rhentu mae'r broblem o 'ddyledion drwg' yn y diwydiant dŵr fwyaf cyffredin.

Mewn ymgais i leihau biliau, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gyflwyno rheoliadau newydd i'w gwneud yn orfodol i landlordiaid i ddarparu manylion eu tenantiaid i gwmnïau dŵr.

'Problem arbennig'

Dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies AC: "Weithiau mae dyledion yn crynhoi pan nad yw cwmnïau dŵr yn gwybod pwy sy'n byw mewn eiddo penodol.

"Mae hyn yn broblem arbennig mewn tai â thenantiaid, a gall fod yn anodd i gwmnïau dŵr gasglu taliadau sy'n ddyledus.

"Byddai'r rheoliadau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn golygu bod dyletswydd gyfreithiol ar landlordiaid i roi eu manylion eu hunain i'r cwmni dŵr, yn ogystal ag enwau a dyddiadau geni eu tenantiaid, a dyddiadau eu tenantiaeth.

"Dylai hyn ei wneud yn llawer haws i gasglu'r dyledion, ac fe ddylai ostwng biliau dŵr cartrefi Cymru yn y pen draw. "

Os caiff y rheoliadau eu cyflwyno, byddai ond yn berthnasol i Dŵr Cymru a Dee Valley sydd yn gweithredu "yn gyfan gwbl neu'n bennaf" yng Nghymru.

System deg

Dywedodd Julia Cherrett o Ddŵr Cymru: "Mae landlordiaid a thenantiaid yn broblem arbennig i ni.

"Mae gennym tua 6,000 o gartrefi'r flwyddyn lle nag oes gennym unrhyw gyfeiriad ar gyfer y tenantiaid sy'n symud allan a dyled ynghlwm i'r cartref ac nid oes gennym unrhyw ffordd wirioneddol effeithiol o gasglu'r ddyled honno.

"Felly, pwrpas yr ymgynghoriad yma yw i wneud landlordiaid yn gyfrifol am y ddyled os nad ydynt yn cyflwyno cyfeiriad ar gyfer y tenantiaid, ac rydym yn credu bod hyn yn deg," ychwanegodd Ms Cherrett.

Os bydd y llywodraeth yn penderfynu cyflwyno'r rheoliadau newydd, byddant yn dod i rym ym mis Mawrth 2014.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi penderfynu peidio â mabwysiadu rheoliadau tebyg yn Lloegr.

Mae'r cais wedi cael ei groesawu gan y corff sydd yn cynrychioli cwsmeriaid dŵr yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Barbara Leech, Rheolwr Polisi y Cyngor Defnyddwyr Dŵr: "Drwy wybod pwy sydd mewn cartref, bydd cwmnïau dŵr yn gallu gwybod pwy yw eu cwsmeriaid, eu bilio'n gynt er mwyn osgoi cynnydd mewn dyledion, a gellir cynnig trefniadau talu o flaen llaw ar gyfer y cwsmeriaid hynny sy'n cael trafferth i dalu.

"Felly, bydd yn helpu defnyddwyr drwy gynnig cymorth yn gynt i'r rhai sydd ei angen a bydd y rheiny sy'n gallu talu yn osgoi mynd i ddyled."

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi agor ymgynghoriad ar y rheoliadau a fydd yn cau ar ddechrau mis Tachwedd 2013.