Heddlu'n ymchwilio i ddifrodi Clawdd Offa ger Y Waun

  • 19 Awst 2013
Difrod: Y ffos wedi diflannu Image copyright Arall
Image caption Difrod: Y ffos wedi diflannu

Mae'r heddlu newydd ddechrau ymchwiliad i ddifrod sylweddol i ddarn o Glawdd Offa.

Dywedodd yr heddlu fod y mudiad sy'n gwarchod henebion, Cadw, wedi rhoi gwybodaeth iddyn nhw.

Roedd adroddiadau am y difrod ddydd Gwener.

Cafodd y clawdd ei godi gan frenin Mercia yn yr wythfed ganrif, ac mae'n debyg mai Brenin Offa o Fersia wnaeth ei adeiladu er mwyn amddiffyn ei deyrnas rhag y Cymry.

Dywedodd Cadw na allai ddweud a fyddai modd atgyweirio'r clawdd.

Mae'n drosedd difrodi Clawdd Offa ac fe all troseddau arwain at ddirwy neu garchar am hyd at ddwy flynedd.

Straeon perthnasol