Y telynor Robin James-Jones wedi marw

  • 17 Awst 2013
Robin James-Jones
Roedd Robin James-Jones yn uchel ei barch ymhlith telynorion eraill

Bu farw'r telynor Robin James-Jones yn 70 mlwydd oed.

Yn wreiddiol o Ddolwyddelan yn Nyffryn Conwy, bu'n gweithio fel cerddor mewn clybiau nos yn New Orleans am flynyddoedd.

Treuliodd gyfnod hefyd fel telynor ar fwrdd llong y QE2.

Roedd yn uchel ei barch ymhlith telynorion, a bu'n athro i lawer o delynorion ifanc yng Nghymru.

Roedd wedi bod yn diodde' o salwch ers tro.