West Ham 2-0 Caerdydd

Joe Cole
Joe Cole yn dathlu ei gôl yn erbyn Caerdydd

West Ham 2-0 Caerdydd

Mae cefnogwyr Caerdydd wedi aros dros hanner can mlynedd i weld eu tîm yn chwarae ar lefel uchaf pêl-droed Lloegr, ond fe fydd rhaid iddyn nhw ddisgwyl ychydig hirach i gael eu pwynt cyntaf yn yr Uwchgynghrair.

Er i'r ddau glwb yma wynebu ei gilydd sawl gwaith dros y blynyddoedd diweddar yn y bencampwriaeth, mae West Ham wedi cael y fantais o un tymor yn yr Uwchgynghrair.

Roedd y profiad yna'n allweddol yn y munudau cyntaf wrth i'r tîm cartref greu sawl cyfle. Fe ddylai Joe Cole wedi sgorio pan gafodd gyfle i benio i'r rhwyd wedi llai na deng munud o chwarae.

Ond yna wedi 13 munud fe gafodd gyfle arall, a doedd dim camgymeriad y tro hwn yn dilyn pas dreiddgar Matt Jarvis.

Roedd gweddill yr hanner cyntaf yn fedydd tân i dîm Malky Mackay, gyda West Ham yn rheoli a chreu cyfleoedd di-ri.

Doedd dim diffyg ymdrech gan Gaerdydd - enghraifft berffaith o hynny oedd pan gafon nhw gic rydd yn gynnar yn yr ail hanner.

Craig Bellamy gymrodd y gic, ond pan gliriwyd hynny daeth gwrthymosod gan West Ham ond fe redodd Bellamy ei hun yn ôl i glirio'r perygl llai na 15 eiliad yn ddiweddarach.

Ond doedd yr ymdrech ddim yn ddigon da, ac fe danlinellwyd hynny pan gafodd y tîm cartref ail gôl i sicrhau'r pwyntiau.

Mark Noble ddaeth o hyd i Kevin Nolan yn y cwrt, ac fe osododd ei ergyd droed dde yn daclus i gefn y rhwyd.

Yr unig galondid i Malky Mackay fydd cofio gêm gyntaf Abertawe yn yr Uwchgynghrair ddau dymor yn ôl - fe gafon nhw gweir go iawn bryd hynny cyn gorffen yn 11eg yn y tabl ym mis Mai.