Casnewydd 1-0 Bristol Rovers

  • 17 Awst 2013
Clwb Pêl-droed Casnewydd

Casnewydd 1-0 Bristol Rovers

Yn dilyn eu buddugoliaeth gyffyrddus yn eu gêm gyntaf yn ail adran y gynghrair, fe gafodd Casnewydd drafferthion o flaen gôl wrth golli'r ail.

Digon tebyg oedd y drydedd wrth i Gasnewydd groesau Bristol Rovers i Rodney Parade.

Yn yr hanner awr cyntaf aeth ergyd Chris Zebroski heibio'r postyn ac fe gafodd cynnig Christian Jolley ei arbed gan golwr yr ymwelwyr.

Yr hyn oedd ei angen ar y tîm cartref oedd cyfle cymharol hawdd, ac fe ddaeth hynny cyn yr egwyl wrth iddyn nhw gael cic o'r smotyn am drosedd ar Jolley gan Tom Parkes.

Andy Sandell gafodd y dasg o sgorio ac fe wnaeth hynny i roi'r fantais i Gasnewydd ar yr egwyl.

Doedd fawr o gyffro yng ngweddill y gêm, ond y nodyn calonogol i Gasnewydd oedd eu bod nhw wedi rheoli o safbwynt meddiant ac ergydion at y gôl, ond fe fydd yn bryder i Justin Edinburgh na lwyddodd ei dîm i fanteisio ar y rhagoriaeth yna.