Joe Calzaghe: 'Hwn yw cyfle mawr Cleverly'

Nathan Celeverly Image copyright Getty Images
Image caption Nathan Cleverly yw pencampwr is-drwm WBO y byd

Gallai Nathan Cleverly fod ar lefel uchaf bocsio'r byd trwy guro Sergey Kovalev, meddai un o fawrion y gamp Joe Calzaghe.

Mae pencampwr is-drwm WBO y byd yn wynebu Kovalev o Rwsia yng Nghaerdydd nos Sadwrn gyda chynulleidfa deledu fawr o America yn gwylio.

Dywedodd Calzaghe, cyn bencampwr diguro'r byd mai dyma gyfle ei gyd-Gymro i wneud enw mawr i'w hunan.

"Maen nhw'n dweud mai Kovalev yw'r seren fawr nesaf ym myd bocsio. Mae hwn yn gyfle gwych i Nathan felly.

"Byddai ennill yr ornest, a'i hennill mewn steil, yn ei ddyrchafu i blith prif focswyr is-drwm y byd gyda phobl fel Bernard Hopkins."

Gwrthwynebydd peryglus

Dywedodd wrth BBC Radio Wales fod yr ornest yn debyg i'r un gafodd yntau gyda Jeff Lacy yn 2006.

Arweiniodd ei berfformiad disglair y noson honno at ornestau proffil uchel yn erbyn Hopkins a Roy Jones Jr.

Dywedodd Calzhage fod Kovalev yn wrthwynebydd peryglus ond bod yr ornest yn gyfle i Cleverly godi ei broffil yn America.

"Dyma'r ornest berffaith iddo oherwydd mae e yn erbyn dyn sydd â chefnogaeth teledu America. Mae'r Americanwyr yn disgwyl y bydd yn ennill.

"Daeth Showtime (cwmni teledu Americanaidd) draw i Gymru yn siarad am Jeff Lacy ond fe wnaethon nhw adael yn siarad am Joe Calzaghe.

"Rwy'n credu ei fod yn barod am yr ornest. Mae e wedi bod yn bencampwr am ddwy flynedd."

'Dangos uchelgais'

Nid yw Cleverly wedi colli 26 gornest, gyda 12 buddugoliaeth yn dod cyn y diwedd. Mae Kovalev, 30 oed, wedi ennill pob un o'i 21 gornest gyda 18 buddugoliaeth yn dod o fewn y tair rownd gyntaf.

Dywedodd Calzaghe, a ymddeolodd o'r gamp yn 2009: "Fe ddewisodd yr ornest, doedd dim rhaid iddo ei derbyn ac mae hynny'n dangos uchelgais Nathan Cleverly.

"Mae e am fod ymhlith y goreuon ac ymladd y gornestau mawr."

Bydd yr ornest yn dechrau yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd nos Sadwrn, Awst 17, am 10:00pm.

Straeon perthnasol