Lefel A: Llai'n cael y graddau uchaf

  • 15 Awst 2013
canlyniadau

Mae llai o ddisgyblion wedi llwyddo i gael graddau A* ac A yn eu harholiadau Lefel A yng Nghymru yn 2013 am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Safodd 35,714 o bobl ifanc arholiadau Lefel A yn 2013.

Roedd canran y disgyblion lwyddodd i gael graddau A*-E yr un peth â'r llynedd, 97.6%.

Ond yn 2012 fe gafodd 23.6% o ddisgyblion radd A* neu A ac eleni dim ond 22.9% lwyddodd i wneud hynny. Y ffigwr yn 2009 oedd 25%.

Tyfu

Mae'r bwlch rhwng Cymru a Lloegr wedi tyfu. Dros y ffin fe gafodd 26.3% raddau A*/A er bod hynny dipyn llai nag yn 2012.

Dywedodd Prif Weithredwr CBAC Gareth Pierce: "Mae'r bwlch wedi bod ers tair blynedd. Cyn hynny roedd yn llai.

"Un o'r cwestiynau sy'n codi yw: 'Pa gefnogaeth sy' ar gael pan mae'r gofynion yn newid?'

"Dylen ni yn y byd addysg ystyried o ddifri' sut ydan ni'n cefnogi ein gilydd pan mae newidiadau sylfaenol yn digwydd."

Merched

O ran pynciau gafodd eu hastudio, roedd y ffigyrau'n galonogol o safbwynt mathemateg a gwyddoniaeth am fod cynnydd bychan yn y nifer ddewisodd eu hastudio.

Ond roedd llai eto'n dewis astudio ieithoedd tramor modern gyda dim ond 1.3% yn dewis Ffrangeg o'i gymharu â 2.3% yn 2009.

Fe gafodd merched ganlyniadau gwell na bechgyn ar y cyfan er i fwy o fechgyn lwyddo i gael graddau A* na'r merched.

Roedd y bwlch ar ei waethaf yn achos gradd C gyda merched yn gwneud yn well na'r bechgyn o dros chwe phwynt canran, ac fe gafodd 98.1% o ferched raddau A*-E gyda 97% o fechgyn yn gwneud hynny.

Dywedodd Mr Pierce: "Ar y cyfan, prif nodwedd y canlyniadau yw cysondeb a dyna'r cyfrifoldeb sy' gennym fel corff dyfarnu.

"O ran y gwahaniaeth rhwng y bechgyn a'r merched y cwestiwn y dylid ei ofyn yw: 'Pa fath o ymagweddiad sydd ei angen wrth baratoi dros gyfnod o ddwy flynedd?'"

Ffigwr pwysig arall eleni yw nifer y disgyblion lwyddodd yn y Fagloriaeth Gymreig.

Llwyddodd 9,159 i gael tystysgrif craidd y fagloriaeth gyda 8,565 yn derbyn diploma pellach. 8,259 lwyddodd yn 2012.

'Llongyfarch'

Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis y dylid llongyfarch disgyblion Cymru.

Yng Ngholeg Pabyddol Dewi Sant yng Nghaerdydd dywedodd: "Mae'r bobl ifanc yn y coleg hwn â phob dysgwr arall ar draws Cymru yn haeddu dathlu eu canlyniadau heddiw.

"Maen nhw wedi gweithio'n hynod o galed ac yn haeddu cael eu canmol am yr hyn maen nhw wedi'i gyflawni.

"Dylid cydnabod a chanmol y rhieni a'r athrawon hefyd am eu cefnogaeth i'n dysgwyr ar hyd y daith.

"Dyma set da o ganlyniadau. Mae'r gyfradd llwyddo yn yr arholiadau Lefel A yn parhau'n uchel yng Nghymru ac rydyn ni'n gweld cynnydd cyson mewn llawer o wahanol bynciau.

"Mae cyfran gynyddol o'r graddau ddyfarnwyd yn A*- C.

"Calonogol yw gweld bod Bagloriaeth Cymru, ein cymhwyster blaenllaw, yn parhau i ddod yn fwyfwy poblogaidd. Mae mwy o ddysgwyr yn sylweddoli pa fath o gyfleoedd y mae'n eu cynnig iddyn nhw wrth wneud cais am brifysgol neu fynd i fyd gwaith.

"Mae'r myfyrwyr sydd wedi ennill Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru wedi cael cymhwyster y mae prifysgolion wir yn ei gymryd o ddifrif ac sy'n cael ei dderbyn yn eang fel cymhwyster mynediad ar gyfer dilyn cyrsiau gradd.

"Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster ychwanegol i'r Lefel A a chymwysterau eraill ar lefel uwch y mae myfyrwyr yn eu hennill fel rhan o'u rhaglenni dysgu."

'Pryder'

Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts AC: "Mae canlyniadau heddiw yn benllanw blynyddoedd o waith caled disgyblion ac athrawon Cymru.

"Fodd bynnag mae'n bryder bod y ganran o ddisgyblion Cymru gafodd y graddau uchaf wedi disgyn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol ac yn is na'r gyfradd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

"Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei godi gyda'r Gweinidog Addysg pan fydd y Cynulliad yn ailgynnull fis nesaf.

"Rwy'n dymuno'n dda i bob myfyriwr sy'n cael lle yn eu prifysgol dewis cyntaf neu un arall drwy'r system glirio.

"Bydd llawer yn mynd ymlaen i astudio prentisiaethau ac rwy'n dymuno'n dda iddyn nhw yn eu hymdrechion.

"Rwyf hefyd am gynnig anogaeth i'r rhai na wnaeth cystal ag yr oedden nhw wedi gobeithio. Rhaid iddyn nhw gofio bod sawl dewis yn agored iddyn nhw.

"Mae hwn yn ddiwrnod o ddathlu i fyfyrwyr yng Nghymru."

'Cymwysterau cadarn'

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig Angela Burns AC:

"Bydd y mwyafrif llethol o bobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda chymwysterau cadarn sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, gan eu rhoi mewn sefyllfa gref wrth baratoi am y farchnad swyddi neu addysg bellach.

"Ar ôl y dathlu gwreiddiol, bydd angen i'r gweinidog a'r sector addysg ystyried y cwymp yn nifer y graddau uchaf ynghyd â'r bwlch mewn perfformiad gyda rhannau eraill o'r DU.

"Mae'r dirywiad mewn ieithoedd tramor modern hefyd yn destun pryder ar adeg lle dylem fod yn ceisio trawsnewid Cymru i fod yn genedl amlieithog yn hytrach na dwyieithog.

"Gan fod bechgyn yn gwneud yn waeth na merched o gymaint â 6% ar radd C, mae'r canlyniadau ag oblygiadau i ddynion ifanc sy'n prysur ddod yn un o'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas."

'Corff annibynnol'

Mae llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas AC, wedi llongyfarch myfyrwyr, athrawon a rhieni yn sgil y canlyniadau Lefel A ond pwysleisiodd fod angen corff annibynnol i reoli arholiadau yng Nghymru yn y dyfodol.

"Eisoes mae Plaid Cymru yn croesawu'r cynnydd sylweddol yn y nifer sydd wedi derbyn Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru. Rydym yn credu bod gwella'r modd mae Fagloriaeth Cymru yn cael ei raddio yn mynd i adlewyrchu'n well waith caled myfyrwyr Cymru.

"Yn y dyfodol bydd angen corff annibynnol i reoli arholiadau yng Nghymru er mwy osgoi yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ail-farcio arholiadau.

"Mae angen sicrhau bod myfyrwyr Cymru yn cael eu hymestyn gan arholiadau a bod yr arholiadau yn eu paratoi nhw ar gyfer y byd gwaith."