Buddugoliaeth i Forgannwg

  • 15 Awst 2013
Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Mae Morgannwg wedi curo Middlesex yng nghystadleuaeth y YB40 yn Stadiwm Swalec nos Fercher.

Oherwydd y glaw yng Nghaerdydd, bu'n rhaid gohirio dechrau'r gêm yn erbyn Middlesex, a phan ddaeth y dechrau yr ymwelwyr alwodd yn gywir a dewis maesu mewn gêm a gyfyngwyd i 25 pelawd yr un.

Gareth Rees oedd angor batiad Morgannwg, ond cyfraniadau cyflym o 26 gan Ben Wright a 20 gan Graham Wagg oedd yn allweddol wrth i'r tîm cartref osod nod o 154 i Middlesex.

Daeth batiad Morgannwg i ben ar 153 am 9 wiced yn eu 25 pelawd nhw.

Oherwydd bowlio gwych gan Jim Allenby a Simon Jones, roedd Middlesex mewn trafferthion yn fuan, ac ond wedi sgorio 32 am 5 wiced ar un cyfnod.

Daeth partneriaeth rhwng Neil Dexter (54) a John Simpson (32) â Middlesex yn ôl i'r ornest, ond yna fe gipio y troellwr Dean Cosker dair wiced i sicrhau buddugoliaeth sy'n codi Forgannwg i fod yn gyfartal ar frig y grŵp yn y gystadleuaeth YB40 gyda gêm wrth gefn.

Sgôr terfynol:

Morgannwg - 153 am 9 wiced (25 pelawd)

Middlesex - 142 am 9 wiced (25 pelawd)

Morgannwg yn ennill o 11 rhediad.