Ffigyrau diweithdra: Dim newid mawr

  • 14 Awst 2013
Canolfan gwaith
Mae 5,000 mwy mewn gwaith nawr o'i gymharu â'r cyfnod o Ionawr i Fawrth

Mae'r nifer y bobl sy'n ddi-waith yng Nghymru wedi aros yn gyson, gyda 122,000 heb swydd rhwng Ebrill a Mehefin 2013.

Mae'r ffigwr diweddaraf yn cyfateb i 8.2% o boblogaeth Cymru - y ffigwr ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan yw 7.8%

Er bod y ffigwr diweithdra 4,000 yn llai na'r adeg yma flwyddyn ddiwethaf, mae 1,000 yn fwy nac yn chwarter cyntaf 2013.

Er hynny mae gostyngiad wedi bod yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal gyda 1,800 yn llai yn hawlio ym mis Gorffennaf o'i gymharu â mis Mehefin.

Mae 1.36m o bobl bellach yn gweithio yng Nghymru sydd 5,000 yn fwy nac yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon a 21,000 yn fwy na'r adeg yma yn 2012.

'Calonogol'

Yn ymateb i'r ffigyrau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ffigyrau heddiw'n dangos fod cyflogaeth fyny 5,000 dros y chwarter diwethaf, ac wedi codi 21,000 dros y flwyddyn ddiwethaf gyda'r cynnydd blynyddol unwaith eto'n well na un y DU.

"Tra bod y ffigyrau hyn yn galonogol, mae'r rhagolygon ar gyfer y DU yn parhau i fod yn ansicr. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn eu gallu i roi cymorth i'r economi Gymreig dyfu gan greu swyddi safon uchel cynaliadwy.

"Er enghraifft mae ein menter flaenllaw Twf Swyddi Cymry wedi creu 7,876 o gyfloed swyddi ers iddo ddechrau fis Ebrill diwethaf, gyda 5,731 o bobl ifanc yn llenwi'r swyddi hyn."

Yn siarad ar ran Swyddfa Cymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol David Jones: "Mae mis arall a welodd ystadegau'n gwella yn dangos fod y llywodraeth hon yn gosod yr amodau ar gyfer twf a bod economi Cymru yn gwneud cynnydd cyson, o achubiaeth i adfer.

"Mae'r neges yn glir - bydd y llywodraeth yn parhau i gefnogi'r rheiny sydd eisiau gweithio wrth i ni barhau i roi'r amodau yn eu lle i gefnogi twf economaidd hirdymor ledled Cymru a gweddill y DU."

'Gweinidogion diog'

Ond roedd Ceidwadwr arall, llefarydd y blaid ar fusnes yn y Cynulliad Nick Ramsay AC yn credu bod yr economi'n fregus o hyd, a dywedodd:

"Mae'r ffigyrau diweddaraf yn pwysleisio mor fregus yw'r adfywiad economaidd yng Nghymru a'r angen i weinidogion Llafur Cymru i hybu twf yn ein heconomi.

"Yn wahanol i'r glymblaid sydd dan arweiniad y Ceidwadwyr yn San Steffan, sydd yn awchu am gael sicrhau adfywiad economaidd y DU, mae gweinidogion Llafur Cymru yn ymddangos fel eu bod yn gorffwys ar eu rhwyfau wrth i weinyddiaeth Carwyn Jones fynd gyda'r llif.

"Dylai'r llywodraeth Lafur yma ddefnyddio'r arfau economaidd i dorri trethi busnes er mwyn helpu busnesau bach i gystadlu, buddsoddi mewn isadeiledd trafnidiaeth a gwella mynediad at gyllid i entrepreneuriaid.

"Wedi 14 mlynedd o lywodraethau Llafur Cymru yw'r rhan dlotaf o'r DU ac mae'n rhaid i'r ffigyrau diweithdra diweddaraf yma annog gweinidogion diog Llafur i weithredu."

Dywedodd llefarydd busnes y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott: "Unwaith eto rydym yn gweld y ffigyrau gwaith yn symud tuag at y cyfeiriad cywir ond mae dal llawer o ffordd i fynd.

"Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gwybod mai nid rhifau abstract sy'n poeni pobl a'i fod yn gallu bod yn anodd iawn i'r rheiny sy'n gweithio'n galed wrth chwilio am swydd.

"Her fawr sy'n wynebu' ddwy lywodraeth yw mynd i'r afael a diweithdra ymysg yr ifanc, sy'n parhau i fod yn uchel yng Nghymru.

"Ar ôl 14 mlynedd o lywodraethau Llafur mae Cymru'n parhau i fod y wlad dlotaf yn y DU a dylai'r ffigyrau diweddaraf yma annog gweinidogion diog Llafur i weithredu."