Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymorth i fyfyrwyr peirianeg

14 Awst 2013 Diweddarwyd 09:10 BST

Er mwyn sicrhau bod Prydain ar flaen y gad yn y diwydiant peirianeg awyrennau bydd cymorth ariannol ar gael i gant o fyfyrwyr ddilyn cwrs Gradd Meistr yn y pwnc. Gwnaed y cyhoeddiad gan Weinidog Busnes Llywodraeth San Steffan, Michael Fallon, ar ymweliad ag Airbus ym Mrychdyn. Dros y tair blynedd nesaf, bydd 500 o bobl yn elwa o beidio gorfod talu ffioedd dysgu. Adroddiad Sion Tecwyn.