Tân Maesteg: Heddlu'n ymchwilio

Clwb Rygbi Maesteg
Image caption Bydd y difrod yn siŵr o amharu ar baratoadau Maesteg ar gyfer y tymor newydd

Mae heddlu'n parhau i ymchwilio i dân wnaeth ddifrodi clwb rygbi Maesteg ddoe.

Cred Heddlu De Cymru yw bod y tân wedi cael ei gynnau'n fwriadol.

Fe wnaeth y tân achosi difrod i ran o'r clwb a'r rhan o'r stadiwm lle mae pobl yn sefyll.

Dywedodd Peter Howard Jones o Wasanaeth Tân De Cymru: "Am 5:02pm fe gafodd y gwasanaeth nifer o alwadau i dân yng nghlwb rygbi Maesteg.

"Wedi cyrraedd fe wnaeth y criw ddarganfod y man sefyll a rhan o'r clwb ar dân. Cafodd adnoddau ychwanegol eu galw amdanynt yn syth oherwydd maint a chymhlethdod y tân.

"Oherwydd gwaith caled ac ymrwymiad y criwiau fe gafodd ei gyfyngu i un rhan o'r lle sefyll ac i un stafell ar y llawr cyntaf.

"O fewn awr roedd chwe peiriant o dde Cymru wedi cyrraedd ac un o wasanaeth y Canolbarth a'r Gorllewin ac roedd y digwyddiad dan reolaeth."

Mae cadeirydd y clwb David Morgan wedi disgrifio'r digwyddiad fel un trist a dinistriol: "Rydym wedi gwario gymraint o amser yn atgyweirio'r clwb, yn ei adnewyddu.

"Roedden ni'n edrych ymlaen at ddechrau'r tymor, a nawr hyn."

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal nawr gan y gwasanaeth tân a tîm ymchwilio lleoliadau troseddau Heddlu De Cymru er mwyn ceisio darganfod sut ddechreuodd y tân.

Straeon perthnasol