'Dim angen cystadleuaeth i Ddŵr Cymru'

tap

Ni fydd cynllun gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i greu mwy o gystadleuaeth yn y sector dŵr yn debyg o lwyddo yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Ar hyn o bryd mae Tŷ'r Cyffredin yn ystyried y Mesur Dŵr, ond pe bai'n dod yn ddeddf does dim bwriad ymestyn y gyfraith i Gymru yn syth.

Nod y mesur yw galluogi busnesau, elusennau a sefydliadau eraill ddewis eu cyflenwr dŵr a charthffosiaeth, yn debyg i'r modd sy'n gweithredu gyda nwy a thrydan.

Doedd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad - sydd wedi cwblhau ymchwiliad i oblygiadau posibl y mesur i Gymru - ddim o'r farn y byddai cwsmeriaid yng Nghymru ar eu hennill.

'Cost sylweddol'

Un rheswm am hynny yw model busnes cwmni Dŵr Cymru, sef cyflenwr dŵr mwya'r wlad. Maen nhw'n gweithio fel cwmni nid-am-elw sy'n ail-fuddsoddi unrhyw enillion yn y rhwydwaith.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:

"Mae'r gost o gyflwyno'r newidiadau a gynigir ym Mil Dŵr llywodraeth y DU yn sylweddol, ac o gofio'r model di-ddifidend y mae Dŵr Cymru yn ei weithredu nid yw'r pwyllgor wedi'i argyhoeddi y byddai newidiadau o'r fath yn creu unrhyw fuddion ychwanegol i gwsmeriaid, neu'n codi safon gwasanaethau yng Nghymru.

"O gofio bod nifer o aelwydydd yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau presennol, dylid osgoi hyn yn ein barn ni."

Yn ystod ei ymchwiliad, bu'r pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan nifer o fusnesau a sefydliadau yng Nghymru.