Enwi'r beiciwr fu farw yng Nghrymlyn

  • 13 Awst 2013

Mae'r beiciwr 60 oed fu farw wrth feicio yng Nghrymlyn ddydd Llun wedi ei enw fel Paul Jones, 60, o Markham.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A472, Ffordd Hafodyrynys am tua 7:20am, ac roedd dau gar a'r beic yn rhan o'r digwyddiad.

Dywedodd Heddlu Gwent fod dyn 51 oed o ardal Porth a dyn arall, 59, o Lyn Ebwy wedi eu harestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus.

Mae'r heddlu yn galw ar unrhywun sydd â gwybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad i'w ffonio ar 101.