Cyfeirio ail fesur i'r Goruchaf Lys

Tractor
Mae'r ddau lywodraeth yn anghytuno yngylch gwerth y bwrdd cyflogau

Mae'r twrnai cyffredinol wedi cyfeirio mesur Cynulliad arall i'r Goruchaf Lys.

Yn ôl Dominic Grieve nid yw'r Mesur Sector Amaethyddol o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

Fe bleidleisiodd aelodau o blaid y mesur, a fyddai'n galluogi gweinidogion i osod cyflogau gweithwyr amaethyddol, ar ddiwedd tymor yn dilyn cyfnod o ddeddfu o dan amgylchiadau brys.

Cafodd mesur cyntaf y Cynulliad oedd yn ymwneud ac is-ddeddfau llywodraeth leol hefyd ei gyfeirio at y Goruchaf Lys ond fe wnaeth y llys ddyfarnu o blaid y Cynulliad.

Mae clerc y Cynulliad wedi ysgrifennu llythyr at y gwleidyddion yn y bae yn eu hysbysu o'r newyddion.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Cafodd y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf.

"Bydd y Bil yn annog newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant amaethyddol ac yn cynorthwyo'r sector i wella a chadw sgiliau pwysig er mwyn sicrhau ffyniant y sector yn y dyfodol.

"Mae'r Twrnai Cyffredinol yn Llywodraeth y DU wedi penderfynu cyfeirio'r Bil sector Amaethyddol (Cymru) i'r Goruchaf Lys gan nad yw wedi ei argyhoeddi ei fod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol.

"Mae Llywodraeth Cymru'n anghytuno ac rydym yn parhau i ddal bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

"Rydym wedi cael cadarnhad fod Llywodraeth y DU yn bwriadu parhau â'r drefn cyflogau amaethyddol yng Nghymru y tu hwnt i 1 Hydref tan fod y Goruchaf Lys wedi gwneud ei ddyfarniad, ac rydym yn croesawu hynny."

Cefndir

Penderfynodd Llywodraeth Cymru gyflwyno mesur brys fis Gorffennaf wedi i Lywodraeth San Steffan benderfynu cael gwared â'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol.

Gwaith y corff oedd pennu cyflogau ac amodau gweithwyr amaethyddol ac fe fyddai'r mesur newydd yn sefydlu bwrdd tebyg yng Nghymru.

Roedd y gweinidog sydd yn gyfrifol am y portffolio amaeth, Alun Davies, yn dweud bod y bwrdd yn cael ei barchu o fewn y diwydiant ac y dylai barhau.

Ond roedd Defra, adran amaeth San Steffan yn honni fod cael gwared ar y bwrdd o "fudd hir dymor i'r diwydiant ffermio a gweithwyr fferm" a'i fod yn faich gweinyddol nad oes angen.

Pan ddaeth hi'n amser i drafod y mesur brys roedd y gwrthbleidiau yn y Cynulliad yn feirniadol o'r ffaith nad oedden nhw wedi cael llawer o amser i graffu ar y ddeddf newydd a bod y llywodraeth yn anwybyddu'r broses o archwilio mesurau.

Dadl y llywodraeth oedd bod angen pasio'r mesur ar frys fel bod cyflogau gweithwyr yn medru cael eu hamddiffyn ac fe gafodd y mesur ei gymeradwyo.

Ffrae

Ers y llynedd, pan ddaeth y newyddion bod y bwrdd yn cael ei ddiddymu roedd rhai Aelodau Cynulliad yn dweud y dylid sefydlu corff newydd i gynrychioli gweithwyr yng Nghymru.

Safbwynt Defra oedd bod y mater yn ymwneud gyda chyflogau ac nad yw'r maes yma wedi ei ddatganoli i Gymru.

Roedd Llywodraeth Cymru fodd bynnag yn dadlau bod y corff yn ymwneud ag amaethyddiaeth, sydd yn fater sydd wedi ei ddatganoli.

Cymysg yw safbwynt yr undebau ffermio am yr angen i gael y bwrdd cyflogau gyda NFU Cymru yn cytuno gyda safbwynt llywodraeth y DU bod y corff yn perthyn i oes flaenorol.

Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod angen y bwrdd.