Gwrthdrawiad: Beiciwr wedi marw

Mae beiciwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghrymlyn fore Llun.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A472, Ffordd Hafodyrynys am tua 7:20am, ac roedd dau gar a'r beic yn rhan o'r digwyddiad.

Cludwyd y beiciwr - dyn 60 oed o ardal Markham - i Ysbyty Brenhinol Gwent, ond cofnodwyd ei faarwolaeth yno.

Cafodd gyrrwr un o'r ceir, dyn 51 oed o ardal Porth, ei arestio mewn cysylltiad â'r gwrthdrawiad.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad ac a fyddai'n medru cynorthwyo'r ymchwiliad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 gan nodi'r cyfeirnod 46 12/08/13.