Problemau recriwtio staff Cymraeg

  • 8 Awst 2013
Meri Huws ac eraill yn trafod yn stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod
Meri Huws: "Mae cyflogwyr, cyrff cyhoeddus, sefydliadau, busnesau ac ati yn dweud yn glir eu bod nhw'n awyddus i gyflogi pobl ddwyieithog ond eu bod nhw'n methu recriwtio. Y cwestiwn sydd gen i i'w ofyn yw pam?"

Mae cyrff yng Nghymru'n methu recriwtio staff sy'n medru siarad Cymraeg er gwaethaf eu hymdrechion gorau, yn ôl y Comisiynydd Iaith Meri Huws

Mewn cyfarfod ym mhabell Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod dywedodd fod hon yn broblem ddifrifol sydd angen ei datrys.

Yn ôl Ms Huws mae meddygfa yn Llanelli wedi methu cael hyd i berson dwyieithog i weithio yn y dderbynfa ers "bron i flwyddyn".

Dywedodd: "Mae cyflogwyr, cyrff cyhoeddus, sefydliadau, busnesau ac ati yn dweud yn glir eu bod nhw'n awyddus i gyflogi pobl ddwyieithog ond eu bod nhw'n methu recriwtio. Y cwestiwn sydd gen i i'w ofyn yw pam?"

Hefyd ar y panel roedd David Jones, pennaeth newydd Coleg Cambria - y coleg newydd gafodd ei sefydlu wedi i Goleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl uno.

Dywedodd Mr Jones ei fod o ei hun wedi siarad ond ychydig o Gymraeg am gyfnod yn ei arddegau, a dywedodd fod angen rhoi llai o bwyslais ar sicrhau bod pobl ifanc yn siarad yr iaith gan eu bod nhw'n "mynd trwy gyfnod".

"Daeth yr iaith yn ôl i mi wrth i mi chwarae pêl-droed yng Nghaerdydd," meddai.

"Mae angen edrych ar yr iaith dros gyfnod bywyd a pheidio rhoi lan ar bobl."

Roedd Meirion Davies o Fenter Iaith Conwy yn rhan o'r drafodaeth a dywedodd mai'r gyfrinach ar gyfer sicrhau bod gwasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yw cadw pobl ifanc mewn ardaloedd Cymraeg - ac mai'r ffordd i wneud hynny oedd sicrhau swyddi iddynt.

"Yn anffodus dydi o ddim yn un peth neu mi fysa fo'n hawdd," meddai.

"Mae'r traean y bobl ifanc oedd yn siarad Cymraeg yn 1991 yn byw yn Lloegr erbyn hyn."