Pryder am ariannu elusennau

  • 9 Awst 2013
Elusennau
Image caption Mae'r WCVA yn dweud bod newid i system gaffaeliad yn effeithio ar safonau'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu

Mae'r corff sy'n cynrychioli elusennau yng Nghymru wedi beirniadu newidiadau i'r ffordd maen nhw'n cael eu hariannu.

Mae Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) wedi dweud wrth BBC Cymru bod y tuedd i symud oddi wrth roi grantiau, a rhoi cytundebau am wasanaethau yn lle, wedi arwain at "wasanaeth gwaeth" sydd yn "ddrud iawn".

Mae ffigyrau gan y WCVA yn dangos bod incwm elusennau o grantiau wedi gostwng o ddau draean, £291 miliwn, rhwng 2006 a 2009.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai'r broses caffaeliad yw'r dull mwyaf addas i ariannu elusennau mewn sawl achos.

Effaith ar wasanaeth

Dywedodd Graham Benfield, Prif Weithredwr y WCVA bod symud i ddull caffaeliad o ariannu elusennau, sef cynnig a gwobrwyo cytundebau i ddarparu gwasanaethau yn allanol, yn ddrud ac yn effeithio ar safon y gwasanaeth:

"Mae'n ddrud iawn ac mae'n tueddu i ddifetha cyd-weithio a pherchnogaeth pobl leol o'u cymuned, ac mae'n creu gwasanaeth gwaeth nag oedd yn bodoli yn y gorffennol, gan ddefnyddio grantiau."

Mae Mr Benfield yn dweud ei fod yn gallu cymryd chwe mis i gael gwasanaeth, a bod yr Undeb Ewropeaidd yn amcangyfrif i bob caffaeliad gostio tua £25,000.

Mae bron i draean o gyllid y drydydd sector a'r sector wirfoddol yn dod gan y Llywodraeth, cyfanswm o tua £1.6 biliwn bob blwyddyn.

Mae rhai elusennau hefyd yn poeni am filiau treth uchel, wrth i'r newid o grantiau i gytundebau olygu bod elusennau yn gwario miloedd o bunnau ar gyngor ariannol.

Pwysig

Mae elusennau yn cyflogi dros 51,000 o bobl yng Nghymru, gyda miliwn o bobl yn gwirfoddoli bob blwyddyn, ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y sector i Gymru:

"Mae'r drydydd sector yn bwysig iawn yng Nghymru ac rydym yn rhoi cyllid sylweddol i'w gefnogi," meddai llefarydd.

"Nid oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud i symud oddi wrth grantiau, sydd yn parhau i fod y ffordd orau i ariannu mewn sawl achos.

Image caption Mae elusennau yn dweud bod cytundebau yn gwneud y broses o dalu trethi yn hynod gymhleth

"Ond weithiau, caffaeliad yw'r modd mwyaf priodol i sicrhau bod y cyllid yn arwain at gwblhau'r canlyniadau cywir."

Mae Mr Benfield yn dweud bod y modd yma o weithredu yn achosi i nifer o wasanaethau ddirywio.

Yn ôl Mr Benfield, ers newid y modd mae gwasanaeth 'Meals on Wheels' yn cael ei redeg i gontractwyr, mae'r gwasanaeth wedi newid yn gyfan gwbl.

Yn lle pryd o fwyd poeth, roedd defnyddwyr yn cael bwyd wedi ei rewi a phopty microdon i'w gynhesu:

"Maen nhw wedi cyflawni'r cytundeb, ond ydyn nhw wedi colli'r gwasanaeth?" meddai.

Treth

Mae elusennau hefyd yn poeni bod y dull newydd yn creu ansicrwydd am dalu trethi, sy'n arwain at wario miloedd o bunnau ar gyngor ariannol gan ymgynghorwyr, arian y dylid gwario ar wasanaethau yn ôl elusennau.

Yn ôl mudiadau mae'r broses yn mynd yn hynod gymhleth pan fo sefydliadau sydd yn talu trethi yn cyd-weithio gydag elusennau sydd ddim.

Mae cyfarwyddwr cwmni Centurion, arbenigwyr TAW yn dweud bod nifer cynyddol o elusennau yn mynd i achosion tribiwnlys oherwydd ansicrwydd am drethi:

"Nid ydy'r mudiadau yma yn arbenigwyr TAW, maen nhw'n wirfoddolwyr," meddai Liz Maher.

"Mae disgwyl iddyn nhw fedru delio gyda'r cymhlethdod arall yma yn aml yn ormod i ofyn amdano."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod llawer wedi ymateb i arolwg diweddar, a bydd y Llywodraeth yn ystyried ei ymateb i hynny:

"Mae'n hanfodol bod adnoddau yn cael eu defnyddio yn y modd gorau posib, yn enwedig oherwydd toriadau i'n cyllideb, a bydd angen i ni wneud rhai penderfyniadau pwysig ynglŷn â'r materion yma yn ddiweddarach eleni."

Straeon perthnasol