Heidio i'r heulwen yn Ninbych

  • 7 Awst 2013
Ardal y llwyfan perfformio
Image caption Mae'r rhagolygon yn addo tywydd braf eto ddydd Iau

Ar ddiwrnod heulog iawn yn Ninbych ddydd Mercher, daeth 19,626 o bobl i'r Maes.

Roedd 'na deilyngdod unwaith eto yn y brif seremoni, wrth i Jane Jones Owen gipio'r Fedal Ryddiaith am ei gwaith ' Gwe o Glymau Sidan'.

Yn wreiddiol o Lanuwchllyn, mae bellach yn byw yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.

Er nad oedd cytundeb ymhlith y beirniaid, cafodd Ms Owen ei disgrifio fel "ysgrifennwr mwyaf dyfynadwy'r gystadleuaeth".

Roedd yr arlwy yn parhau yn y Pafiliwn nos Fercher, gydag enillydd Tlws y Cerddor Ieauan Wyn o Gaerdydd yn cael ei gyhoeddi am 7:00pm, a Gwobr Richard Burton a'r Unawd o Sioe Gerdd ymhlith y cystadlaethau eraill.

Nos Wener am 9.30 mewn seremoni yng ngwesty Meilin Brwcws cyhoeddwyd mai Martyn Croydon, yn wreiddiol o Kidderminster, oedd enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

'Godidog'

Mae trefnwyr y Brifwyl yn hapus gyda'r ffordd mae pethau wedi mynd yn Ninbych hyd yn hyn.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Elfed Roberts:

"Yn ffodus iawn, 'da ni wedi dod yn ôl i'r safle yma, sy'n odidog ac yn un o'r gorau - os nad y gorau - yng ngogledd Cymru.

"Mae 'na ddigon o dir yma, mae'r system drafnidiaeth yn gweithio, ac mae 'na olygfeydd godidog.

"Mae'r tywydd wedi bod yn garedig, yn enwedig yn ystod y cyfnod o osod y Maes."

Mae'r rhagolygon yn addo tywydd braf yn Ninbych eto ddydd Iau, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 21C.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.